Simon Crawford‐Phillips
Conductor
Simon Crawford-Phillips has built a career as a conductor, pianist and creative programmer. He is currently Chief Conductor of Västerås Sinfonietta (2016–2028) and is Principal Guest Conductor of Dala Sinfonietta. He was a Conducting Fellow of the NDR Elbphilharmonie and in 2023 made a critically acclaimed debut with the Royal Swedish Opera.
Forthcoming and recent conducting debuts include with ensembles such as the BBC and Helsinki Philharmonic orchestras, Ulster Orchestra, Norrlands Opera and Oulu Symphony, as well as returns to Stockholm Radio, Royal Stockholm Philharmonic, Royal Swedish Opera and the Norrköping and Gävle Symphony orchestras. Other recent highlights have included projects with the Neubrandenburg Philharmonic, Scottish, Swedish and Zurich Chamber orchestras, Gothenburg and Helsingborg Symphony orchestras and Sinfonia Varsovia for Warsaw’s Lutosławski Chain Festival. He has broadened the Västerås Sinfonietta’s repertoire, which now includes a recorded cycle of Mendelssohn’s symphonies.
He has a particular interest in championing contemporary and neglected repertoire and has given world premieres of works by Thomas Adès, Britta Byström, Helen Grime, Steve Reich and Mark-Anthony Turnage. As pianist in the Kungsbacka Piano Trio, Nash Ensemble (of which he is Co-Artistic Director) and Stockholm Syndrome Ensemble, he has performed worldwide and made recordings for a range of labels.
His regular collaborators include Malin Broman, Daniel Hope, Pekka Kuusisto, Anne Sofie von Otter, Lawrence Power, Carolyn Sampson, Torleif Thedéen, Andrew Staples, the Elias Quartet and Academy of St Martin in the Fields Chamber Ensemble.
Teaching is a particular interest and Simon Crawford-Phillips is Artistic Director of the Swedish National Orchestra Academy at Gothenburg University, Professor in chamber music at Mälardalen University and guest professor at the Edsberg Institut.
Recent and Upcoming
Simon Crawford‐Phillips
Arweinydd
Mae Simon Crawford-Phillips wedi datblygu gyrfa fel arweinydd, pianydd a rhaglennwr creadigol. Ar hyn o bryd, ef yw Prif Arweinydd y Västerås Sinfonietta (2016–2028) a Phrif Arweinydd Gwadd y Dala Sinfonietta. Roedd yn Gymrawd Arwain gyda’r NDR Elbphilharmonie, ac yn 2023 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf, a gafodd ganmoliaeth fawr gan feirniaid, gydag Opera Brenhinol Sweden.
Mae ei ymddangosiadau cyntaf fel arweinydd – yn ddiweddar ac yn y dyfodol agos – yn cynnwys ensembles fel Cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC a Helsinki, Cerddorfa Ulster, Opera Norrlands a Cherddorfa Symffoni Oulu. Mae hefyd wedi dychwelyd i weithio gyda Stockholm Radio, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Opera Brenhinol Sweden, a Cherddorfeydd Symffoni Norrköping a Gävle. Ymhlith ei uchafbwyntiau eraill yn ddiweddar mae prosiectau gyda Ffilharmonig Neubrandenburg; Cerddorfeydd Siambr yr Alban, Sweden a Zurich; Cerddorfeydd Symffoni Gothenburg a Helsingborg; a Sinfonia Varsovia ar gyfer Gŵyl Lutosławski Chain yn Warsaw. Mae wedi ehangu repertoire y Västerås Sinfonietta, sydd bellach yn cynnwys cyfres wedi’i recordio o symffonïau Mendelssohn.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo repertoire cyfoes a gweithiau sydd wedi’u hanwybyddu; mae wedi arwain y perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Thomas Adès, Britta Byström, Helen Grime, Steve Reich a Mark-Anthony Turnage.
Fel pianydd gyda’r Kungsbacka Piano Trio, y Nash Ensemble (lle mae’n gyd-gyfarwyddwr artistig) a’r Stockholm Syndrome Ensemble, mae wedi perfformio ledled y byd ac wedi gwneud recordiadau ar gyfer amrywiaeth o labeli.
Ymhlith y rhai y mae’n cydweithio â nhw’n rheolaidd mae Malin Broman, Daniel Hope, Pekka Kuusisto, Anne Sofie von Otter, Lawrence Power, Carolyn Sampson, Torleif Thedéen, Andrew Staples, yr Elias Quartet ac Ensemble Siambr yr Academy of St Martin in the Fields.
Mae addysgu yn ddiddordeb arbennig iddo; mae Simon Crawford-Phillips yn Gyfarwyddwr Artistig Academi Cerddorfa Genedlaethol Sweden ym Mhrifysgol Gothenburg, yn Athro cerddoriaeth siambr ym Mhrifysgol Mälardalen, ac yn athro gwadd yn yr Edsberg Institut.
Diweddar ac ar y Gorwel












