Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 20:20 GMT 2 Mawrth 2021
A dyna ni am heddiw - bydd y cyfarfod llawn nesaf yfory.
Tan hynny, diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.
Nos da.
Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Tlodi Tanwydd
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif. 2)
Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Alun Jones
A dyna ni am heddiw - bydd y cyfarfod llawn nesaf yfory.
Tan hynny, diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.
Nos da.
Dyna gwblhau Cyfnod 3 - Cyfnod olaf ond un - y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Mae'r Bil yn darparu'r sylfaen statudol ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022 ymlaen.
Nid yw Gareth Bennett o Blaid Diddymu'r Cynulliad yn llwyddo gyda'i welliannau sy'n ymwneud ag addysg Gymraeg, gan gynnwys un oedd yn ceisio datganoli i awdurdodau lleol y pŵer i benderfynu a ddylai Cymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg rhwng blynyddoedd 4 ac 11.
Dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd y bil yn sicrhau “dyfodol dwyieithog disglair” i blant.

Mae Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn cyflwyno nifer o welliannau a fyddai'n cyflwyno elfennau gorfodol i'r cwricwlwm yn ymwneud â "Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys Hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw".
Mae Kirsty Williams yn ymateb bod llawer o'i chynigion eisoes yn orfodol yn y bil. Dywed ei bod yn bwriadu diwygio'r geiriad sy'n ymwneud â Lleiafrifoedd Du ac Ethnig i fod yn fwy eglur yn y "Cod yr Hyn sy’n Bwysig" i fod yn glir nad yw'r elfen orfodol hon wedi'i chyfyngu i'r dyniaethau, ond pynciau eraill hefyd gan gynnwys llythrennedd, iechyd a'r celfyddydau.
Gwrthodwyd y gwelliannau mewn pleidleisiau.

Sian Gwenllian
Mae ASau wedi pleidleisio i wrthod cyfres o welliannau yn ymwneud ag "Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb", gan gynnwys gwneud dysgu "Addysg Lles Mislifol" yn orfodol.
Roedd 26 o blaid a 28 yn erbyn.
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi y bydd sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf yn cael eu cynnwys yng nghanllaw statudol Cwricwlwm Cymru i orfodi ysgolion i ddysgu'r sgiliau hyn i blant.
Mae hi'n gwneud y cyhoeddiad mewn ymateb i welliannau a gynigiwyd gan yr AS Ceidwadol Suzy Davies yn galw i'w cael yn rhan orfodol o'r cwricwlwm - tynnodd y gwelliannau yn ôl wedi cyhoeddiad y gweinidog.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesNid yw cwricwlwm newydd Cymru - sy'n cael ei gyflwyno yn 2022 - yn nodi'n union yr hyn y dylai ysgolion fod yn ei ddysgu ond bydd yn gosod pynciau mewn chwe "maes dysgu a phrofiad":
Yr eitem olaf yw dadl ar Gyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), dolen allanol.
Diben y Bil yw sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig i roi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd ar waith yng Nghymru.
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoeddus, sef:
Mae ASau yn cytuno "y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd".
Diben y Bil hwn yw symud y dyddiad ar gyfer yr ymarfer prisio nesaf ar ardrethi annomestig i 1 Ebrill 2023 ac addasu’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r rhestrau ardrethu annomestig arfaethedig o 30 Medi i 31 Rhagfyr y flwyddyn cyn ailbrisio
Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021, dolen allanol.
Felly:
(i) Caniateir i berchenogion ysgolion ganiatáu i ddisgyblion ym Mlwyddyn 2 ac is ddychwelyd i'r ysgol;
(ii) Caniateir i berchenogion sefydliadau addysg bellach ganiatáu i fyfyrwyr ddychwelyd i'r sefydliad os ydynt yn astudio amaethyddiaeth, adeiladu, arlwyo, peirianneg neu letygarwch a bod angen iddynt fynd i’r sefydliad i gwblhau eu cyrsiau; ac
(iii) Yn ystod y cyfnod rhwng 20 Chwefror 2021 a 12 Mawrth 2021 (ond nid fel arall) gall hyd at 4 o bobl o 2 aelwyd wahanol ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021, dolen allanol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r hawl i absenoldeb mabwysiadydd o ddwy wythnos i 26 wythnos.
Mae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021, dolen allanol.
Diben y Rheoliadau hyn yw "gwarchod bioddiogelwch a chefnogi masnach drwy sicrhau bod mesurau rheoli ffytoiechydol effeithiol yn parhau i weithredu rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr ac o fewn Prydain Fawr mewn perthynas â Nwyddau Cymwys. Mae'n hwyluso'r polisi o fynediad dirwystr i'r farchnad mewn perthynas â Nwyddau Cymwys.
"Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau er mwyn caniatáu symud Nwyddau Cymwys i Brydain Fawr o dan Basbort Planhigion yr UE. Unwaith y bydd y Nwyddau Cymwys ym Mhrydain Fawr, caiff Pasbort Planhigion yr UE barhau i gyd-deithio â nhw."

Mae Helen Mary Jones o Blaid Cymru yn siomedig gyda'r cynllun tlodi tanwydd, gan ei ddisgrifio fel un nad yw'n ddigon uchelgeisiol.
Mae hi'n annog y gweinidog i ystyried awgrym ei phlaid i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, tebyg i Dŵr Cymru, i roi mwy o reolaeth uniongyrchol i bobl sy'n prynu ynni yng Nghymru dros y tariffau sy'n cael eu codi.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi torri addewid i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru yn llwyr erbyn 2018.
Dywedodd Lesley Griffiths bod polisïau cyni llywodraeth y DU wedi "tanseilio ein hymdrechion i gyflawni'r targedau hyn".
Ffynhonnell y llun, PA MediaMae'r rhaglen cartrefi cynnes yn cynnwys cyllid ar gyfer inswleiddio llofft
Mae Mark Isherwood ar ran y grŵp Ceidwadol yn gresynu nad oes "cerrig milltir rhwng nawr a 2035".
Dywed bod "angen cael ymrwymiad clir i ddileu tlodi tanwydd difrifol erbyn diwedd y degawd hwn fan bellaf" ac i roi hyn a'r targed terfynol ar sail statudol - felly "ni allant cael eu hosgoi gan lywodraethau'r dyfodol ".
Ateb Lesley Griffiths yw y byddai gosod targedau dros dro nawr dros gyfnod amser byrrach yn "profi i fod yn ymarfer ofer iawn nes ein bod yn deall effaith y pandemig yn well."
Symudwn ymlaen at Ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths: Cynllun Tlodi Tanwydd.
Mae'r cynllun , dolen allanolyn gosod tri tharged i'w cyflawni erbyn 2035:
At ddiben y cynllun hwn ac fel y'i diffinnir yn Neddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000, ystyrir bod aelwyd yn byw “mewn tlodi tanwydd” os yw aelod o'r aelwyd yn byw ar “incwm is” mewn cartref na ellir ei gadw'n “gynnes” am “gost resymol”.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae astudiaeth gan Brifysgol Nottingham Trent wedi awgrymu bod 600,000 arall ar ei hôl hi gyda’u biliau yn y DU ers y pandemig
Nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau Covid-19.
Dywed fod cyfanswm o 933,485 o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid, tra bod 111,716 bellach wedi cael yr ail hefyd, ac y mae'n disgrifio hyn fel "cyflawniad anhygoel".
Mae'r Ceidwadwr Angela Burns yn galw hynny'n "newyddion hynod siriol" ac yn rhoi "diolch i chi, i'r byrddau iechyd, i'r gwirfoddolwyr, i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen hon" yn ogystal â Llywodraeth y DU am eu strategaeth gaffael.
Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn codi'r ddadl am oedran yn erbyn galwedigaeth wrth flaenoriaethu brechiadau.
"Mae'n gwneud synnwyr i frechu pobl mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd, hyd yn oed os ydyn nhw'n iau," meddai.
Mae'r gweinidog iechyd Vaughan Gething yn cyfeirio at gyngor arbenigwyr sy'n cynghori llywodraeth y DU - y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - sydd wedi dweud mai brechu pobl yn nhrefn oedran yw'r ffordd gyflymaf o leihau marwolaethau Covid-19.
Dywed Mr Gething "mae'n ymwneud â chydnabod maint y ffactorau risg."
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae arweinydd y grŵp Ceidwadol Andrew RT Davies yn gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i rewi treth gyngor a defnyddio'r gwerth £5.8 biliwn o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU i "ariannu'r bwlch" a "helpu teuluoedd ar hyd a lled Cymru."
"Mae yna argyfwng costau byw yn datblygu nawr gyda'r argyfwng Covid hwn yn taro'r economi yn galed iawn," meddai.
Mae'r prif weinidog yn ateb y bydd yn aros "nes bod cyllideb yfory allan o'r ffordd ac rydym yn sicr faint o arian sydd ar gael inni yma yng Nghymru i'w ddefnyddio y flwyddyn nesaf."
"Byddwn wedyn yn ystyried y dibenion y gellid ei gymhwyso ar eu cyfer."

Andrew RT Davies
Meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford, "Rydw i eisiau setliad newydd i'r undeb fel bod lle Cymru ynddo yn cael ei barchu'n llawn a bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar sail pedair gwlad yn cael eu gwneud ar sail cyfranogiad cyfartal."
Mae'n dadlau bod pobl yng Nghymru am weld penderfyniadau "am Gymru" yn cael eu gwneud yma "heb dorri ein hunain oddi ar bopeth y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd fel cymdeithas wirfoddol pedair gwlad ledled y DU" .

Mark Drakeford
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn anghytuno ag erthygl a ysgrifennwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn The National, dolen allanol, ble dywedodd bod annibyniaeth yn “ymateb o’r 19eg ganrif i broblem yn yr 21ain ganrif”.
Mae Mr Price yn dadlau mai "annibyniaeth yw'r ffordd orau o sicrhau cymdeithas fwy cyfartal, oherwydd ni fyddai Cymru wedi'i rhwymo gan batrymau pleidleisio pobl yn ne Lloegr. Nid ydym erioed wedi pleidleisio i'r Torïaid yng Nghymru ond rydym wedi cael llywodraethau Torïaidd dau-draean o'r amser.
"A oes unrhyw reswm i feddwl y bydd hynny'n wahanol yn y dyfodol?"

Adam Price