Crynodeb

  • Y Canghellor Philip Hammond yn cyhoeddi Datganiad yr Hydref

  • Heddlu'n canfod corff wrth chwilio am ddyn aeth ar goll mewn storm

  • FIFA: Camau disgyblu yn erbyn Cymru

  1. Da bo am y trowedi ei gyhoeddi 17:58 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r llif byw ar fin dod i ben am ddiwrnod arall, ond byddwn yn ôl â'r diweddara am 08:00 bore fory. Tan hynny, da bo chi!

  2. Barod am barti Beca?wedi ei gyhoeddi 17:55 GMT 23 Tachwedd 2016

    S4C

    A hithau’n agosáu at dymor y gwledda, mae’r pobydd adnabyddus Beca Lyne-Pirkis, yn barod i rannu ei chyfrinachau gyda gwylwyr S4C.

    Bydd bwydydd blasus o bob cwr o’r byd, diodydd anhygoel, cerddoriaeth a llond bol o hwyl yn ei chyfres newydd, Parti Bwyd Beca, sy’n dechrau heno am 21:30. 

    Bydd yn gadael ei chegin yng Nghaerdydd i gynnal partïon bwyd ‘pop-up’ ar hyd a lled Cymru.

    Un o'r prydiau blasus fydd ar gael ym Mharti Bwyd BecaFfynhonnell y llun, S4C
    Disgrifiad o’r llun,

    Un o'r prydiau blasus fydd ar gael ym Mharti Bwyd Beca

  3. Tywydd cymysg henowedi ei gyhoeddi 17:48 GMT 23 Tachwedd 2016

    Tywydd, BBC Cymru

    Noson gymylog gyda glaw ysgafn i rai yn y de, gyda gwyntoedd cryf yn y de orllewin, ond awyr clir mewn mannau yn y gogledd yn golygu fod 'na bosibilrwydd am bocedi o rew.

    Am eich manylion tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  4. Carchar i ddyn am drywanu ei gariadwedi ei gyhoeddi 17:41 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn wedi ei garcharu am ymosod ar ei gariad, a'i thrywanu naw o weithiau gyda chyllell. 

    Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Ashley Dawe, 23 oed, wedi ymosod ar Melissa Parr yn y gwely wedi iddo ddechrau ei holi hi am ei pherthynas a dynion eraill. 

    Cafodd ei ddedfrydu gan y Barnwr Eleri Rees i 14 mlynedd yn y carchar, er bod disgwyl iddo gael ei ryddhau ar brawf am y pum mlynedd olaf.

    Llys y Goron Caerdydd
  5. Artist o Aberaeron yn cyrraedd rownd derfynol Sky Artswedi ei gyhoeddi 17:34 GMT 23 Tachwedd 2016

    Prifysgol Aberystwyth

    Mae myfyriwr a raddiodd gyda gradd MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2014, wedi cyrraedd rownd derfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn 2016 Sky Arts.

    Roedd Kim Whitby, a fagwyd yn Aberaeron, yn un o 300 o artistiaid a wahoddwyd i herio arlunwyr proffesiynol yn y gystadleuaeth.

    Bydd rownd derfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn 2016 yn cael ei darlledu ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd ar Sky Arts am 8 yr hwyr.

    artistFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
  6. Chwaraeon Cymru 'angen ei ddiwygio'n sylweddol'wedi ei gyhoeddi 17:26 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Sport Wales

    Mae yna rybudd i Chwaraeon Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, bod angen diwygio'r corff yn sylweddol, yn dilyn adroddiad damniol sydd wedi ei weld gan Chwaraeon BBC Cymru.

    Daw'r adroddiad wedi i holl weithgareddau Bwrdd Chwaraeon Cymru gael eu hatal.

    Mae'n honni fod yna "ddiffyg tryloywder" o fewn y sefydliad, a bod yna berygl y bydd yn chwalu'n sefydliadau gwahanol oni bai fod yna gytundeb i'w newid. 

    Chwaraeon CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Y cadeirydd, Paul Thomas, gafodd ei benodi ym mis Mawrth, sy'n arwain yr adolygiad.

  7. Eisiau perfformio?wedi ei gyhoeddi 17:11 GMT 23 Tachwedd 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  8. Cyngor Caerffili i dalu costau cyfreithiol o £150,000wedi ei gyhoeddi 17:06 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd Cyngor Caerffili yn talu £150,000 ychwanegol mewn costau cyfreithiol yn ymwneud â dadl dros gyflogau uwch swyddogion.

    Mae'r prif weithredwr, ei ddirprwy, a'r pennaeth gwasanaethau cyfreithiol wedi eu gwahardd o'u swyddi ers i ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2013 ddweud bod cynnydd i'w cyflogau yn anghyfreithlon.

    Cafodd y cyhuddiadau troseddol yn erbyn y tri eu gollwng, ond mae camau disgyblu mewnol y cyngor yn parhau.

    Costau Cyfreithiol
  9. Y diweddara ar y Post Prynhawnwedi ei gyhoeddi 16:53 GMT 23 Tachwedd 2016

    Post Prynhawn
    BBC Radio Cymru

    Yr ymateb i ddatganiad yr hydref, carchar am oes i lofrudd Jo Cox ac atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru. Rhai o'r straeon fydd yn cael sylw Dewi Llwyd a'r Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru rhwng 17:00 a 18:00

    Philip Hammond
  10. Adeilad ar dân yng Nghwm Rhymniwedi ei gyhoeddi 16:43 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae ymladdwyr tân wrthi'n ceisio ddiffodd fflamau mewn adeilad ar stâd ddiwydiannol Blaenau'r Cymoedd yng Nghwm Rhymni. 

    Fe gafodd y gwasanaeth tân ei alw yno am 14:51 

    Mae'n debyg bod 100 tunnell o ddeunydd plastic y tu allan i'r adeilad ynghyn.

    TanFfynhonnell y llun, arall
  11. Bale yn anafu ei ffêrwedi ei gyhoeddi 16:35 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Sport

    Mae 'na amheuaeth a fydd Gareth Bale yn ffit i chwarae yn yr El Clasico yn erbyn Barcelona wedi iddo anafu ei ffêr.

    Fe herciodd y seren 27 oed o'r cae yn ystod buddugoliaeth ei dîm yn erbyn Sporting Lisbon nos Fawrth.

    Cadarnhaodd Real Madrid ei fod wedi diodde anaf i'w droed dde, ond dyw hi ddim yn glir am ba mor hir y bydd e allan.

    BaleFfynhonnell y llun, Reuters
  12. Cwest i achos boddi traeth Mwntwedi ei gyhoeddi 16:32 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwest wedi clywed fod dyn fu farw ar ôl cael ei sgubo i'r môr yng Ngheredigion wedi cael rhybudd gan ffrind y gallai gael ei ladd. 

    Fe ddisgynnodd Luke Morton o Orllewin Canolbarth Lloegr i'r môr oddi ar y creigiau ym Mwnt ar 7 Awst. Cafodd ei gorff ei ganfod bron i fis yn ddiweddarach, ar 1 Medi.

    Dywedodd ei ffrind Barry McFadden wrth y cwest yn Aberystwyth fod Luke wedi mynnu cerdded ar hyd y creigiau er gwaetha'r môr garw.

    Cofnododd y cwest iddo foddi drwy anffawd.

    Achos boddi MwntFfynhonnell y llun, Llun teulu
  13. Bwrdd Chwaraeon Cymru wedi ei 'atal dros dro'wedi ei gyhoeddi 15:49 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae wedi dod i'r amlwg fod bwrdd Chwaraeon Cymru wedi ei atal dros dro. 

    Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd yr Aelod Cynulliad, Rebecca Evans, y gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a Iechyd Cyhoeddus fod hon yn weithred niwtral, ac iddi ddod i'r penderfyniad yn dilyn materion sydd wedi dod i'r amlwg dros y dyddiau diwetha: "Doedd hwn ddim yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn, ond rwy'n fodlon ei fod yn gam angenrheidiol, tra mae fy swyddogion yn cynnal adolygiad. 

    "Fedra i ddim a rhoi rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond byddaf yn hysbysu aelodau o unrhyw ddiweddariad cyn gynteg ag y byddaf mewn sefyllfa i wneud hynny."

    Chwaraeon CymruFfynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru
  14. Oedi 'annerbyniol' i waith atal llifogydd ar yr A55wedi ei gyhoeddi 15:26 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Plaid Cymru wedi disgrifio'r oedi yn y gwaith o atal llifogydd ar ffordd yr A55 fel sefyllfa annerbyniol.

    Roedd llifogydd ar ran o'r ffordd rhwng Tal Meibion ac Abergwyngregyn flwyddyn yn ôl ac roedd disgwyl i'r gwaith ddechrau'n gynharach yn yr hydref.

    Ond nid yw'r gwaith wedi dechrau ac roedd problemau pellach ar y ffordd yr wythnos hon yn dilyn Storm Angus meddai Plaid Cymru.

    a55
  15. Prestatyn 'yn debygol' o oroesiwedi ei gyhoeddi 15:14 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Wales News

    Mae clwb pêl-droed Tref Prestatyn yn "debygol iawn" o godi digon o arian i dalu bil o £53,000 gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, medd cadeirydd y clwb.

    Mae gan gyn-aelod o Uwchgynghrair Cymru tan yfory i dalu'r arian neu ddirwyn y clwb i ben. 

    Dywedodd y cadeirydd Chris Tipping ei fod yn falch iawn o'r cefnogwyr , sydd wedi cyfrannu dros 50% o'r arian.

    Clwb Pel-droed PrestatynFfynhonnell y llun, PRESTATYN FC
  16. AC yn ymddiheuro am grio yn y Cynulliadwedi ei gyhoeddi 14:56 GMT 23 Tachwedd 2016

    Golwg 360

    Mae Aelod Cynulliad Aberconwy wedi ymddiheuro am gerdded allan o gyfarfod ym Mae Caerdydd yn ei dagrau, dolen allanol, medd Golwg 360.

    Roedd Janet Finch-Saunders yn rhan o gyfarfod yn holi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, pan ddechreuodd hi sôn am ddau achos penodol yn ei hetholaeth hi ei hun.

    Janet Finch-Saunders
  17. Lori laddodd bedwar 'ddim i fod ar y ffordd'wedi ei gyhoeddi 14:50 GMT 23 Tachwedd 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae achos llys wedi clywed fod lori - laddodd bedwar o bobl mewn gwrthdrawiad yng Nghaerfaddon - wedi bod yn cael ei gyrru'n rhy gyflym ac na ddylai fod ar y ffordd yn y lle cyntaf.

    Roedd dau o'r pedwar gafodd eu lladd yn dod o Abertawe, ac un yn dod o Gwmbran.

    Mae tri dyn yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac mae'r achos yn parhau

    marwolaethau CaerfaddonFfynhonnell y llun, Arall