Cyn-AS Chris Davies yn ennill achos tribiwnlys cyflogaeth

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies a Sarah Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Lewis (dde) fod "hinsawdd o ofn" yn bodoli ar ôl iddi ganfod anfonebau ffug yn eiddo i Chris Davies (chwith)

Mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ennill achos tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn ei gyn-reolwr swyddfa.

Roedd Sarah Lewis yn ceisio iawndal yn erbyn Chris Davies gan honni dau achos o ddiswyddo ffurfiannol, ac un o ddatgelu budd y cyhoedd.

Dywedodd iddi gael ei hanwybyddu a'i hynysu gan weddill y staff ar ôl iddi ganfod anfonebau ffug gwerth £700 yn eiddo i Mr Davies.

Ond cafodd tri chyhuddiad eu gwrthod yn unfrydol gan banel y llynedd. Mae'r canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi.

Fe gollodd Mr Davies ei sedd fel AS Brycheiniog a Sir Faesyfed mewn isetholiad ym mis Awst 2019 yn dilyn deiseb galw 'nôl.

Ym mis Mawrth y llynedd fe blediodd Mr Davies, 51, yn euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.

Bu'n destun deiseb galw 'nôl yn ei etholaeth, oedd yn golygu y byddai isetholiad pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn ei arwyddo.

Fe wnaeth 10,005 o bobl arwyddo'r ddeiseb dros gyfnod o chwe wythnos.

Cafodd Mr Davies ddedfryd o wasanaeth cymunedol a dirwy o £1,500 ar ôl iddo gyfaddef y troseddau.

Beth oedd yr honiadau?

Dywedodd Ms Lewis wrth dribiwnlys cyflogaeth nad oedd wedi cael codiad cyflog am dair blynedd ac iddi adael ei swydd ar ôl bod yn sâl am fisoedd.

Clywodd y gwrandawiad fod Ms Lewis wedi sylwi ar anghysondeb gydag anfonebau ar gyfer gwaith ffotograffiaeth yn 2016.

"Fe wnes i'r penderfyniad i beidio cyflwyno'r anfoneb i Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol (IPSA), oherwydd fy mod yn gwybod ei fod yn un ffug," meddai.

Dywedodd ar ôl y digwyddiad fod natur Mr Davies tuag ati wedi datblygu yn llawer mwy "beirniadol a negyddol".

Ond ni ddaeth y panel o hyd i unrhyw dystiolaeth fod Mr Davies wedi dweud wrth ei weithwyr i ymddwyn mewn ffordd benodol tuag at Ms Lewis.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru: "Mae'r dyfarniad yn dod â dwy flynedd anodd iawn i ben."

Straeon perthnasol