'Hinsawdd o ofn' yn swyddfa'r cyn-AS Chris Davies

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies a Sarah Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Lewis fod ymddygiad Chris Davies wedi datblygu yn fwy negyddol tuag ati

Mae rheolwr swyddfa cyn-AS Ceidwadol wedi sôn am "hinsawdd o ofn" oedd yn bodoli ar ôl iddi ganfod anfonebau ffug gwerth £700 yn eiddo i'r gwleidydd.

Mae Sarah Lewis yn ceisio iawndal yn erbyn Chris Davies gan honni achos o ddiswyddo ffurfiannol, gan iddi gael ei hanwybyddu a'i hynysu gan weddill y staff.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr Davies gyfaddef iddo wneud anfoneb ffug, gan golli ei sedd fel AS Brycheiniog a Maesyfed.

Dywedodd Ms Lewis wrth dribiwnlys cyflogaeth nad oedd wedi cael codiad cyflog am dair blynedd ac iddi adael ei swydd ar ôl bod yn sâl am fisoedd.

Clywodd gwrandawiad yng Nghaerdydd fod Ms Lewis wedi sylwi ar anghysondeb gydag anfonebau ar gyfer gwaith ffotograffiaeth yn 2016.

"Fe wnes i'r penderfyniad i beidio cyflwyno'r anfoneb i Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol (IPSA), oherwydd fy mod yn gwybod ei fod yn un ffug," meddai.

Dywedodd ar ôl y digwyddiad fod natur Mr Davies tuag ati wedi datblygu yn llawer mwy "beirniadol a negyddol".

Clywodd y tribiwnlys am ddigwyddiad arall, lle'r oedd yna wallau wrth gyflwyno cais am dreuliau, gan olygu fod yn rhaid i Mr Davies ad-dalu £4,000 i IPSA.

Yn ôl Ms Lewis fe wnaeth y cyn-AS ddweud ar y pryd: "Ro'n ni meddwl mai holl bwrpas bod yn AS oedd i ddod yn gyfoethog."

Chris Davies MP
Disgrifiad o’r llun,

Methiant fu ymdrech Chris Davies i gael ei ail ethol mewn isetholiad

Dywedodd nad oedd hi'n gwybod os mai cellwair neu beidio oedd hynny.

Pan gafodd ei herio am y digwyddiad gan Irvine McCabe, cyfreithiwr Mr Davies, dywedodd Ms Lewis: "Rwyf wedi tyngu llw i ddweud y gwir - ac rwy'n dweud y gwir."

Fe wnaeth Ms Lewis fynd yn sâl o'i gwaith ym mis Ionawr 2018, gan roi'r gorau i'w swydd yn swyddfa etholaeth Aberhonddu rai misoedd yn ddiweddarach.

Yn dilyn ymchwiliad, fe gafodd Mr Davies ei gyhuddo mewn cysylltiad â hawlio treuliau ffug yn Chwefror, ac ym mis Ebrill fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad mewn llys ynadon.

Yn dilyn deiseb gan etholwyr, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i fod yn AS a bu'n rhaid cynnal is etholiad, lle roedd yn aflwyddianus wrth geisio cael ei ailethol.

'Sgwrs flin'

Clywodd y tribiwnlys hefyd gan Mark Rhydderch-Roberts, oedd yn drysorydd Cymdeithas Geidwadol Brycheiniog a Maesyfed ar y pryd.

Dywedodd ei fod yn ymwybodol o fwlian cyson yn erbyn Ms Lewis.

Ar ôl i Mr Davies gynnal cyfarfod â Ms Lewis ym mis Tachwedd i drafod ei gwaith, fe wnaeth Mr Rhydderch-Roberts anfon e-bost i'r AS gan ddweud: "Rwy newydd fod ar y ffôn gyda Sarah Lewis oedd mewn cyflwr trallodus yn dilyn beth oedd yn swnio fel sgwrs flin a diangen.

"Er mwyn bod yn glir, mae Sarah wedi bod yn ased mawr i'r gymdeithas gan ymddwyn gyda gonestrwydd dilychwin ym mhopeth mae hi'n ei wneud."

Mae Mr Davies yn gwadu diswyddo ffurfiannol, ac mae'r tribiwnlys yn parhau.

Straeon perthnasol