
Cai Tomos
Beti George yn holi Cai Tomos – y dawnsiwr a’r seicotherapydd. Beti George interviews Cai Tomos – dancer and psychotherapist
Mae Cai Tomos yn artist, dawnsiwr, seicotherapydd a hwylusydd creadigol sydd yn byw yng Nghanolbarth Cymru.
Mae ei waith yn cyfuno dawns, symudiad, iechyd, therapi a'r celfyddydau creadigol, gyda ffocws arbennig ar lesiant, iachâd a chymuned.
Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod yn Nolgellau, ond fe fu’n byw yn Llundain am gyfnod oherwydd gwaith ei Dad – Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
Hyfforddodd fel dawnsiwr proffesiynol ac mae wedi gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu'n aelod o gwmni dawns Earthfall ac mae wedi datblygu gyrfa sy'n pontio'r byd celfyddydol a'r sector iechyd.
Yn ogystal â'i waith fel artist, mae Cai yn seicotherapydd cofrestredig, ac yn gweithio gyda phobl sy'n wynebu heriau fel trawma, galar, salwch a straen. Mae Cai yn defnyddio celf, symudiad a dychymyg fel rhan o'r broses therapi.
Mae hefyd wedi gweithio fel artist preswyl yn Ysbyty Chelsea and Westminster yn Llundain, gan ddod â dawns a gweithgareddau creadigol at gleifion ar wardiau canser, HIV a phobl hŷn.
Mae’n byw yng Nghanolbarth Cymru.
Ar y Radio
Clip
![]()
Tŷ'r Cyffredin yn 'lle chwarae' i Cai Tomos
Hyd: 00:59
Darllediadau
- Dydd Sul18:00BBC Radio Cymru
- Dydd Iau Nesaf18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people


