1. Mae llif byw'r refferendwm wedi dod i benwedi ei gyhoeddi 07:08 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    A dyna ni - mae llif byw'r refferendwm wedi dod i ben ar fore hanesyddol i wleidyddiaeth ym Mhrydain.

    Cofiwch bydd ein llif byw arferol yn dechrau ymhen llai nag awr am 08:00. Tan hynny, diolch i chi am ddilyn y llif dros nos.

  2. Dim 'plan B'wedi ei gyhoeddi 07:06 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    A.S. Ceidwadol David Davies yn deud bod hi wedi bod yn 'gamgymeriad' cynnig refferendwm heb gael 'plan B':

    Disgrifiad,

    David Davies

  3. Dylanwad pobl hŷn...wedi ei gyhoeddi 07:05 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  4. Cyfrifoldeb ar arweinwyr Gadaelwedi ei gyhoeddi 07:04 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Guto Harri yn dweud bod 'na gyfrifoldeb mawr ar arweinwyr ymgyrch Gadael i wneud eu 'gweledigaeth' i weithio:

    Disgrifiad,

    Guto Harri

  5. Llywodraeth Iwerddon: Cyfarfod bryswedi ei gyhoeddi 07:01 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae Llywodraeth Iwerddon wedi galw cyfarod brys o'r cabinet ddydd Gwener yn dilyn canlyniad y refferendwm yma yn y DU.

  6. Ymateb Glyn Davies A.S.wedi ei gyhoeddi 06:58 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Ymateb yr Aelod Seneddol Ceidwadol Glyn Davies i'r canlyniad:

    Disgrifiad,

    Glyn Davies

  7. Arglwydd Hain: 'Canlyniad trychinebus'wedi ei gyhoeddi 06:53 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae'r Arglwydd Hain, arweinydd ymgyrch Llafur Cymru dros Aros, wedi dweud wrth BBC Radio Wales fod y canlyniad heddiw yn un "trychinebus i Gymru fydd yn dod a chanlyniadau difrifol i bobl."

    Ychwanegodd mai'r bobl oedd wedi pleidleisio dros adael oedd y rhai oedd yn elwa fwyaf o arian Ewrop, ac nad oedd sicrwydd y byddai cynllun yr M4 ger Casnewydd na Metro De Cymru yn gweld golau dydd bellach.

  8. Cymru: 'Dim grym i fargeinio'wedi ei gyhoeddi 06:49 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Does dim grym gan Gymru i geisio cael bargen dda am fod y wlad wedi pleidleisio i adael yr UE, meddai'r Athro Richard Wyn Jones:

    Disgrifiad,

    Richard Wyn Jones

  9. Lle nesaf o fan hyn?wedi ei gyhoeddi 06:44 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Mae Prydain wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth fydd yn digwydd nesaf? Fyddwn ni ddim yn gadael yn syth, mae yna flynyddoedd o drafod o'n blaenau.

    Y cwestiwn nawr yw pwy fydd yn ein harwain ni trwy'r trafodaethau dwys sydd i ddod? Ai David Cameron, - sydd wedi dadlau mor chwyrn yn erbyn gadael - yw’r person cywir, neu a oes angen wyneb newydd wrth y llyw?

    Cyn hyn mae David Cameron wedi mynnu y bydd yn aros doed a ddelo, ond mae methiant ar y raddfa yma yn ei gwneud hi'n anodd iawn iddo barhau.

    Ond eto gyda'r bunt yn disgyn mor sylweddol â chymaint o ansicrwydd o'n blaenau, mae'r marchnadoedd yn chwilio am sefydlogrwydd.

    Dyna pam y bydd David Cameron o fewn yr oriau nesaf yn camu allan o rif 10 Downing Street i wneud datganiad, yn ei gwneud hi'n glir, beth yw'r camau nesaf iddo fo a'r wlad.

  10. Cameron yn 'or-hyderus'wedi ei gyhoeddi 06:39 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae David Cameron wedi bod yn "or-hyderus" dros y misoedd diwethaf meddai Vaughan Roderick:

    Disgrifiad,

    Vaughan Roderick

  11. Geiriau Saunders Lewis yn wir?wedi ei gyhoeddi 06:34 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Y Bargyfreithiwr Gwion Lewis: "Fedrai'm peidio meddwl am eiriau Saunders Lewis y bore ma, oherwydd mi nath Saunders Lewis sawl tro ddatgan bod o'n bryderus bod 'na rhywbeth Anewropeaidd ynglŷn â'r meddylfryd Cymreig. Dw i'n credu bod ni wedi gweld hynny."

  12. Y Post Cyntaf ym Mrwselwedi ei gyhoeddi 06:31 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae'r Post Cyntaf yn darlledu'n fyw o Frwsel y bore ma, gyda Carl Roberts a Dylan Jones wrth y llyw. Mae Kate Crocket a Gwenllian Grigg yn cyflwyno o Gaerdydd - ag Alun Thomas yn San Steffan.

    PC
  13. 'Gwrthod gwrando' ar yr arbenigwyrwedi ei gyhoeddi 06:22 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Y bargyfreithiwr Gwion Lewis yn dweud bod pobl wedi penderfynu peidio gwrando ar yr arbenigwyr yn ystod yr ymgyrch:

    Disgrifiad,

    Gwion Lewis

  14. Sefydlogrwydd cyn hir?wedi ei gyhoeddi 06:18 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Y Ceidwadwr Harri Lloyd Davies yn credu y bydd y marchnadoedd arian yn sefydlogi mewn ychydig ddyddiau:

    Disgrifiad,

    Harri Lloyd Davies

  15. Cerdd ar ôl canlyniadwedi ei gyhoeddi 06:09 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Ar fore hanesyddol i wleidyddiaeth Prydain, Siôn Aled sydd yn cynnig cerdd i Cymru Fyw i nodi'r achlysur:

    I Ewrop, dyma wawrio - i wewyr

    dyhead yn gwywo:

    rôl hynny, pa fory fo?

    Does neb â'r ateb eto. 

  16. 'Moment hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 06:05 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Yr hanesydd Hywel Williams yn dweud bod heddiw yn 'foment hanesyddol':

    Disgrifiad,

    Hywel Williams

  17. Yr ymgyrch Gadael yn fuddugolwedi ei gyhoeddi 06:03 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae'r ymgyrch dros adael wedi cyrraedd y trothwy oedd angen ei groesi o ran niferoedd pleidleisiau er mwyn sicrhau buddugoliaeth.

    O ganlyniad mae'r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio o fwyafrif o blaid gadael yr UE.

    Baner
  18. Nifer o gwestiynau i'w hateb....wedi ei gyhoeddi 05:56 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Yr uwch ddarlithydd Anwen Elias yn dweud bod llawer o gwestiynau heb eu hateb yn dilyn y canlyniad:

    Disgrifiad,

    Anwen Elias

  19. Llafur 'heb weiddi digon' medd A.S.wedi ei gyhoeddi 05:51 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Yr AS Llafur Nia Griffith yn cyfaddef efallai fod ei phlaid heb weiddi digon yn ystod yr ymgyrch:

    Disgrifiad,

    Nia Griffith

  20. Canlyniad Cymru: 'Methiant' Llafur a Phlaid Cymruwedi ei gyhoeddi 05:48 GMT+1 24 Mehefin 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X