Rheithgor i ystyried marwolaeth dynes ar ôl her bwyta malws melys

Cafodd Natalie Buss ei disgrifio fel "gwraig, mam a merch wych" yn dilyn ei marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd rheithgor yn rhan o'r cwest i farwolaeth dynes wnaeth dagu ar ôl cymryd rhan mewn cystadleuaeth bwyta malws melys (marshmallows).
Bu farw Natalie Buss, 37, wedi iddi fod ar lwyfan yng Nghlwb Rygbi Beddau, Rhondda Cynon Taf, mewn noson codi arian ar nos Sadwrn, 7 Hydref 2023.
Clywodd adolygiad cyn cwest ym Mhontypridd ddydd Mercher bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y farwolaeth, ac o ganlyniad, byddai'r cwest yn cynnwys rheithgor.
Dywedodd y crwner cynorthwyol, Gavin Knox y byddai'r cwest yn ystyried asesiadau risg gafodd eu cynnal cyn y gystadleuaeth a'r camau gafodd eu cymryd i leihau'r risg o chwarae'r gêm.
Menyw wedi marw ar ôl her bwyta malws melys
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
Menyw wedi marw ar ôl tagu ar falws melys
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
Dywedodd Mr Knox y bydd hefyd yn ystyried achos meddygol y farwolaeth.
Mae disgwyl i'r diddanwr wnaeth gynnal y gystadleuaeth a nyrs a geisiodd helpu Ms Buss ar y noson roi tystiolaeth.
Esboniodd y crwner cynorthwyol na fyddai'r cwest yn ystyried pa mor briodol oedd cyflogi'r diddanwr sydd bellach wedi rhoi'r gorau i gynnal yr her mewn digwyddiadau.