The wildlife of Cwm Elan

Gwalch glas / Sparrowhawk
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n cofio'r fideo feiral ddechrau'r flwyddyn o'r llygoden yn tacluso'r sied?
Cafodd y fideo ei saethu gan ddyn o'r enw Rodney Holbrook sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth natur. Yn wreiddiol o Fryste, symudodd Rodney i Lanfair-ym-Muallt yn 2020; lleoliad perffaith ar gyfer ei hobi ag yntau'n byw dafliad carreg o Gwm Elan, un o ardaloedd prydfertha'r wlad sy'n gartref i bob math o adar ac anifeiliaid gwyllt.
Dyma gipolwg ar rai o'i luniau trawiadol, a chlywed gan y dyn ei hun.
--
Who remembers the video that went viral at the start of the year of the mouse tidying up a shed?
The video was filmed by Rodney Holbrook, who is a keen wildlife photographer. Originally from Bristol, Rodney moved to Builth Wells in 2020; the perfect location for his hobby, as it's a mere stone's throw away from the Elan Valley, one of Wales' most beautiful areas and home to all kinds of birds and wild animals.
Let's take a look at some of his impressive photos, and hear from the man himself.

Barcud / Red kite
"Prynais fy nghamera DSLR cynta tua 25 o flynyddoedd yn ôl, un o'r rhai Canon digidol cynhara'. Doedd gen i ddim math o wybodaeth am ffotograffiaeth ar y pryd.
"Fe wnaeth camerâu'r oes ddigidol agor byd newydd i mi, a dros amser mi wnes i ddysgu fy hun.
"Roedd gallu tynnu lluniau adar, anifeiliaid a thirweddau yn gymaint o bleser, dwi erioed wedi edrych yn ôl ac yn mwynhau'r hobi gymaint.
--
"I bought my first DSLR camera about 25 years ago, it was one of the earlier Canon digital. My knowledge of photography at that time, was literally zero!
"The digital age cameras opened up a whole new world for me and over time I virtually taught myself.
"To be able to photograph birds, animals and landscapes was such a joy, I have never looked back and I enjoy the hobby so much.

Titw Tomos Las yn chwilio am ddiod / Blue Tit looking for a drink
"Un o fy hoff luniau erioed.
--
"One of my all time favourite captures.

Cwm Elan / The Elan Valley
"Un o fy hoff fannau i ddogfennu yw Cwm Elan.
"Mae prydferthwch y golygfeydd yng Nghwm Elan, yr holl lefydd i fynd am dro, unigrwydd gogoneddus y bryniau a phan mae'r argau'n llifo drosodd - mae'n hudolus.
--
"One of my favourite places to capture is Cwm Elan.
"First and foremost it is the sheer beauty of the vistas up Cwm Elan, the many walks, the isolation on the upper hills and when the dams flow over - it is magical.

Glas y dorlan / Kingfisher

Rodney'n paratoi i dynnu llun o'i guddfan / Rodney preparing to take a photo from his pop-up hide
"Tydw i ddim yn arbenigwr, ond mae gen i wybodaeth dda am fywyd gwyllt.
"Unwaith rydw i wedi dod o hyd i las y dorlan, tylluan neu lwynog - rydw i'n gosod fy nghuddfan ac yna'n aros.
--
"I'm not an expert but have a good knowledge of wildlife.
"Once I have found kingfishers, owls and other birds and animals such as foxes, I set up a pop-up hide and simply wait.

Drudwy / Starling
"Ar yr olwg gyntaf, mae'n hawdd meddwl taw aderyn lliw du yw'r drudwy, ond fel y gwelwch chi o'r llun yma mae 'na sglein i'w blu.
"Yn ystod y gaeaf mae ei farciau gwyn siap calon yn amlygu eu hunain.
--
"Next time you see a starling, remember it's not just a black looking bird, as this photo shows it has such beautiful iridescent colours.
"During the winter it has white love-heart markings too.

Drudwy gyda siapiau calon ar hyd ei frest / A starling with heart-shaped markings on its breast

Pâr o lwynogod / A pair of foxes
"Cafodd y llun o'r ddau lwynog, y gwryw ar y chwith a'r fanw ar y dde, ei dynnu ym Mryste yn agos i dŷ un o fy mherthnasau ger coedwig.
--
"The two foxes, male on the left, female to the right, were taken in Bristol close to a relative's home on the edge of a woodland.

Amanita'r pryfed yw'r enw ar y math yma o fadarch / This kind of mushroom is called Fly Agaric

Mwyalchen y mynydd, gyda'i goler wen nodweddiadol yn gwledda ar fwyar / A Ring ouzel, with its distinctive white collar, feasting on some berries

Adar y to mewn rhes ar gangen / House sparrows lined up on a branch

Nico yn y glaw / A goldfinch in the rain
"Mae saethu yn y glaw yn rhoi awyrgylch arbennig i luniau, felly tydw i ddim yn meindio gormod os ydy hi'n glawio.
--
"Going out in the rain can get you some wonderful atmospheric shots, so it does not concern me too much if it rains.

Robin goch wedi dal ei ginio / A red-breasted robin catches its lunch

Tylluan gorniog yn arddangos lled ei hadenydd / An eagle owl with its impressive wingspan on display
"Fe gafodd y llun yma o'r dylluan gorniog ei dynnu yng nghanolfan dylluanod Caerloyw.
"Mae o'r unig lun sydd heb ei dynnu yn y gwyllt, sef fy hoff math o ffotograffiaeth.
--
"The shot of the Eagle Owl was taken at the barn owl centre in Gloucester.
"It's the only photo not taken in the wild, which is my preferred photography."

Carw prydferth ym Mryste / A beautiful deer in Bristol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd21 Medi 2023

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024
