Rhun ap Iorwerth eisiau 'cyfarfod brys' gyda Burnham ar ôl gwrthod datganoli

Rhun ap Iorwerth ac Andy BurnhamFfynhonnell y llun, PA Media/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi'i "siomi'n fawr", ac nad ydy Mr Burnham yn "gweld Cymru fel gwlad gydradd"

GanGwydion EdwardsMark PalmeraDavid Deans
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud ei fod eisiau "cyfarfod brys" gyda Phrif Weinidog y DU, ar ôl i Andy Burnham wrthod galwadau i roi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi'i "siomi'n fawr", ac nad ydy Mr Burnham yn "gweld Cymru fel gwlad gydradd".

Mewn llythyr at Rhun ap Iorwerth wythnos diwethaf, dywedodd Mr Burnham nad oedd wedi'i "berswadio" gan yr achos i ddatganoli cyfrifoldebau dros blismona a chyfiawnder, Ystad y Goron, a seilwaith rheilffyrdd i Gymru.

Yn y cyfamser mae arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, wedi ei annog i "eistedd wrth y bwrdd a thrafod" gyda Phrif Weinidog Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock fod Mr Burnham wedi amlinellu sut y mae'n bwriadu "grymuso cymunedau Cymru drwy ddatganoli".

'Achos cryf o blaid'

Dywedodd TUC Cymru eu bod wedi'u siomi bod galwadau am ddatganoli pellach wedi cael eu diystyru "heb unrhyw drafodaeth".

Mewn datganiad ysgrifenedig at Aelodau'r Senedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod "gwrthod hyd yn oed edrych" ar ddatganoli'r pwerau, "yn brawf nad ydy'r prif weinidog yn "gweld Cymru fel gwlad gydradd".

"Mae'r achos o blaid Cymru'n cael rheolaeth dros y meysydd cyfrifoldeb yma - fel ag sydd yn yr Alban - yn un cryf.

"Mae sawl comisiwn wedi dadlau dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, ac eto mae'n ymddangos ei bod hi'n well gan Lywodraeth y DU roi ideoleg unoliaethol o flaen tystiolaeth gadarn.

"Mae'r setliad presennol yn annheg, yn anghyfiawn ac yn anghynaladwy."

Mewn llythyr at Brif Weinidog y DU, gofynnodd Rhun ap Iorwerth iddo ailystyried adroddiadau blaenorol ar y mater.

Dywedodd y byddai'n "croesawu cyfarfod brys i drafod y dystiolaeth a chytuno ar ffordd gynhyrchiol ymlaen".

Galwodd Ken Skates ar y ddwy lywodraeth i barhau gyda thrafodaethau ar ddatganoli pwerau.

Mae Mr Skates eisiau "mwy o fanylder" o ran pam nad yw datganoli plismona pellach yn digwydd, gan ddweud y bydd yn cyfarfod gyda Mr Burnham ei hun.

Nid ydy Llafur Cymru wedi troi eu cefnau ar alwadau i ddatganoli cyfiawnder, Ystad y Goron a buddsoddiad mewn rheilffyrdd.

'Gwrando ar lais gweithwyr Cymru'

Mae ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, Laura Doel, yn dweud eu bod yn "canolbwyntio ar sicrhau'r pwerau a'r adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer gwella canlyniadau i bobl sy'n gweithio".

"Rhaid i hynny gynnwys cyllid teg i Gymru," meddai.

"Mae'r rhain yn safbwyntiau gan TUC Cymru ers amser maith, ac mae'n siomedig bod ein galwadau wedi cael eu diystyru heb unrhyw drafodaeth.

"Gofynnwn i Lywodraeth y DU wneud mwy i barchu ac ymgysylltu â'r sefydliadau democrataidd yng Nghymru a gwrando ar lais gweithwyr Cymru, yn hytrach na gwrthod cynigion ar gyfer datganoli pellach cyn iddyn nhw gael eu hystyried yn iawn."

Stephen KinnockFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock fod "angen i ddatganoli fod yn fwy na throsglwyddo pwerau o un llywodraeth i'r llall"

Mewn datganiad, dywedodd Mr Kinnock: "Mae'r prif weinidog wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn amlinellu cynnig o ran sut mae'n gobeithio cydweithio er mwyn sicrhau twf a swyddi ym mhob cod post yng Nghymru, ail-ddiwydiannu Cymru a grymuso cymunedau Cymru drwy ddatganoli.

"Mae cynnig y prif weinidog yn adlewyrchu ein teimlad bod angen i ddatganoli fod yn fwy na throsglwyddo pwerau o un llywodraeth i'r llall.

"Yn hytrach, mae o eisiau i lywodraethau ystyried, law yn llaw ag awdurdodau lleol, beth yw'r ffordd orau i ddefnyddio pwerau sydd wedi'u cadw a phwerau sydd wedi eu datganoli i hybu twf economaidd.

"Yr hyn sy'n gweithio sy'n bwysig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.