Datblygu system dyfrio planhigion awtomatig

- Cyhoeddwyd
Mae ysgol yng Ngheredigion yn rhan o brosiect sy’n helpu’r disgyblion i ddatblygu system sy’n dyfrio planhigion tŷ gwydr yr ysgol yn awtomatig.
Ar y cyd gyda’r Gymdeithas Frenhinol a Phrifysgol Aberystwyth mae ffederasiwn ysgolion Penllwyn a Phenrhyncoch yn defnyddio ‘micro:bit’ – math o gyfrifiadur syml - er mwyn monitro planhigion yn y tŷ gwydr.
Gan ddefnyddio technoleg syml mae’r disgyblion, gyda help staff y brifysgol, wedi creu systemau sy’n synhwyro pryd mae planhigion angen cael eu dyfrio a faint o ddŵr sydd angen ei roi.
Mewn un rhan o’r system, mae pwmp dŵr yn gallu dyfrio yn awtomatig hefyd – rhywbeth a allai fod o ddefnydd i unrhyw arddwyr brwd sy’n bwriadu gadael y tŷ gwydr i fynd i ffwrdd ar wyliau dros yr haf.

Dywedodd Tally Roberts fod y disgyblion "wedi dysgu llawer o sgiliau gwahanol”
Mae Tally Roberts yn ddarlithydd cyswllt o brifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn gweithio gyda’r disgyblion.
Dwedodd bod yr ysgol wedi cael sawl micro:bit am ddim a bod y brifysgol wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan y Gymdeithas Frenhinol er mwyn prynu cydrannau ychwanegol i ehangu’r prosiect.
“Ry’n ni ychwanegu synwyryddion ar gyfer dŵr yn y pridd, tymheredd, lleithder ac mae’r (disgyblion) wedi bod yn cynnal arbrofion i weld beth sydd angen ei wneud er mwyn i’w planhigion dyfu’n dda.
"Yna maen nhw wedi cyfuno hyn oll yn y prosiect i gael tŷ gwydr sydd â system ddyfrio awtomatig."
Prosiect sy'n cwmpasu nifer o sgiliau
Dwedodd Tally bod y prosiect yn cyflwyno llawer o agweddau o bynciau STEM – gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – i’r disgyblion.
“Maen nhw wedi cael y bioleg o ddysgu sut mae planhigion yn tyfu... maen nhw wedi dysgu llawer o sgiliau gwahanol.”
Fel rhan o’r prosiect mae’r ysgol wedi ymweld â’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion ar gampws Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth.
Yn y ganolfan mae tŷ gwydr enfawr sy’n cynnwys platfformau trin planhigion awtomatig, roboteg, delweddau a chyfrifiadureg – mae’n un o’r tai gwydr mwyaf datblygedig yn y byd.

Bu'r disgyblion yn ymweld â Chanolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion ar gampws Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth
Tra ar yr ymweliad bu rhai o blant Ysgol Penllwyn yn sôn am yr hyn maen nhw wedi dysgu.
Dywedodd Alfie sydd ym Mlwyddyn 6: “Ni wedi bod yn gwneud fel tests ar blanhigion, a dysgu am bridd a ni wedi bod yn gweld trwy microsgops.”
Dywedodd Anwen, blwyddyn 6, fod y “micro:bits yn gallu gwneud nifer o wahanol bethau. Maen nhw’n gallu gweithio gyda moisture sensor, a hefyd maen nhw’n gallu helpu i roi dŵr i’r planhigion."
Mewn polytwnel yng ngardd yr ysgol mae disgyblion Ysgol Penllwyn yn tyfu tomatos, gorbwmpeni neu courgettes a phupur melys.

Ar hyn o bryd maen nhw’n defnyddio synwyryddion sydd wedi’u cysylltu â’r ‘micro-bits’ i fesur y lleithder ym mhridd dau wely o blanhigion tomatos.
Mewn un o’r gwelâu mae’r system yn dyfrio yn awtomatig pan fydd y pridd yn mynd yn rhy sych.
Mae’r offer sy’n cael ei ddefnyddio yn y prosiect yn costio tua £50 ac yn ôl Jason Brook o Brifysgol Aberystwyth fe allai’r systemau fod o gymorth i arddwyr o bob math.
Mae Ysgol Penllwyn, Ysgol Penrhyncoch ac Ysgol Myfenydd yn Llanrhystud ar restr fer yng nghystadleuaeth yr ardd ysgol orau yng Ngheredigion.
Fe fydd enw'r ysgol fuddugol yn cael ei gyhoeddi yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf.