Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, am y tro olaf ond un cyn toriad y Pasg.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:35 GMT 22 Mawrth 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy

    Da boch chi.

    Y Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau glas a melyn baner WcráinFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin

  2. 'Amodau gwaith ansicr'wedi ei gyhoeddi 14:24 GMT 22 Mawrth 2022

    Mae Jack Sargeant, AS Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy, yn dyfynnu enghreifftiau o "amodau gwaith ansicr" sy'n wynebu gweithwyr ifanc yng Nghymru.

    “Dywedodd un ymatebwr wrthyf, wrth weithio yn y sector lletygarwch yn ystod y pandemig, eu bod yn cael eu hannog i beidio â gwisgo mwgwd a fyddai, ac rwy'n dyfynnu 'yn effeithio ar gildyrnau i weithwyr benywaidd’.

    "Soniodd person ifanc arall am gael ei orfodi i mewn i brentisiaeth ffug a chamfanteisiol, gan ddatgan, ac eto, dyfynnaf, 'Wnaethon nhw ddim hyd yn oed fy nghofrestru ar gyfer y cwrs, felly cefais fy nhalu hanner y cyflog am yr un gwaith a chefais ddim hyfforddiant.' Nawr, mater cyffredin yr oedd llawer yn ei wynebu oedd contractau ansicr, gydag un unigolyn yn gwneud cais am swydd a hysbysebwyd ar gyfer 40 awr yr wythnos, dim ond i dderbyn cynnig o gontract dim oriau.”

    Dywed y prif weinidog mai “ymuno ag undeb llafur yw’r cam unigol mwyaf effeithiol y gall person ifanc ei gymryd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth y byddai ei angen arnynt, pe bai’n wynebu’r mathau o amgylchiadau y mae Jack Sargeant wedi’u hamlinellu y prynhawn yma."

    Mae’r pwyntiau a wnaed gan Jack Sargeant yn amserol oherwydd gweithredoedd cyflogwyr P&O meddai’r prif weinidog.Ffynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae’r pwyntiau a wnaed gan Jack Sargeant yn amserol oherwydd gweithredoedd cyflogwyr P&O meddai’r prif weinidog.

  3. 'Ehangu mynediad at fwyd a thanwydd'wedi ei gyhoeddi 14:19 GMT 22 Mawrth 2022

    Mae’r prif weinidog yn galw ar y canghellor Rishi Sunak i ddefnyddio Datganiad y Gwanwyn ddydd Mercher i gymryd “camau i ddarparu cymorth i’r rhai lleiaf abl i reoli’r argyfwng yn yr agweddau mwyaf hanfodol ar fywyd bob dydd, gan ehangu mynediad at fwyd a thanwydd i’r rhai a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd heb y rheiny".

    Mae'r canghellor dan bwysau i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn costau byw
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r canghellor dan bwysau i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn costau byw

  4. 'Amrywiaeth enfawr rhwng awdurdodau lleol' yn nifer y plant mewn gofalwedi ei gyhoeddi 14:04 GMT 22 Mawrth 2022

    Mae Rhys ab Owen yn tynnu sylw at yr "amrywiaeth enfawr rhwng awdurdodau lleol" yn nifer y plant mewn gofal - "Torfaen, cynnydd o 251 y cant, tra nad oes gan Sir Gaerfyrddin unrhyw gynnydd o gwbl, a'r amrywiadau lleol rhwng rhywle fel Torfaen a Chasnewydd. Mae'r ffaith bod plentyn yn Nhorfaen bum gwaith yn fwy tebygol o fynd i mewn i'r system ofal na phlentyn yn Sir Gaerfyrddin yn hollol anghywir."

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Mae’n fater arwyddocaol iawn o bolisi cyhoeddus yma yng Nghymru ac mae’n llygad ei le: mae’r gwahaniaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwbl drawiadol”.

    Ychwanegodd, "rydym yn cymryd mwy o blant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru, ac rydym wedi gwneud hynny ar gyfradd gyflymach o gymharu â rhannau o Loegr sy'n edrych fel rhannau tebyg o Gymru.

    "Dyna pam mae'r mater mor frys, ond gallwn gael rhywfaint o optimistiaeth yn ei gylch. Gall pethau ac maent yn cael eu gwneud yn wahanol ac mae angen i ni fabwysiadu'r dull gwell hwnnw ledled Cymru."

  5. 'Hiliaeth systemig'wedi ei gyhoeddi 13:59 GMT 22 Mawrth 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at yr orymdaith wrth-hiliaeth yng Nghaerdydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil y Cenhedloedd Unedig.

    Mae’n dweud bod hiliaeth systemig ar draws ein cymdeithas, o’n system addysg i’n system iechyd, ac yn ein heconomi, ac mae’n galw am weithredu i ddod yn genedl wrth-hiliol.

    Mae’n gofyn yn benodol, “fel cam pwerus, ond hefyd yn gam ymarferol, i gyflawni’r dyhead cyffredin hwnnw i ddod yn genedl wrth-hiliol, a wnewch chi ymrwymo i Gymru ymuno â’r Alban i ymgorffori yn y gyfraith gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o hiliaeth?"

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb, “Rwy’n gwbl hapus, wrth gwrs, i drafod y pwynt penodol y mae’r Aelod wedi’i godi ac i wneud hynny gyda’r grŵp hwnnw o bobl yr ydym wedi gallu tynnu arnynt mor bwerus wrth lunio’r cynllun [gweithredu cydraddoldeb hiliol], oherwydd eu profiad byw sy'n siarad trwyddo."

    Ymgasglodd cannoedd o bobl ym mhrifddinas Cymru i brotestio yn erbyn hiliaeth mewn cymdeithas
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymgasglodd cannoedd o bobl ym mhrifddinas Cymru i brotestio yn erbyn hiliaeth mewn cymdeithas

    Roedd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn siarad yn y digwyddiad yng nghanol dinas Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn annerch y dorf yn y digwyddiad yng nghanol dinas Caerdydd

  6. 'Rhestrau aros cronig am ddeintyddiaeth'wedi ei gyhoeddi 13:48 GMT 22 Mawrth 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod yna "restrau aros cronig am ddeintyddiaeth" yng Nghymru.

    Mae’n gofyn, "pan welwn driniaethau deintyddol yn gostwng 70 y cant dros y 12 mis diwethaf, a ydych yn cytuno â mi fod problem wirioneddol o ran capasiti o fewn gwasanaethau deintyddol Cymru a gallu pobl i gofrestru â darpariaeth y GIG?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb bod “deintyddiaeth y GIG yn ddi-os yn heriol iawn” ond mae'n gwadu ei fod yn fater o gapasiti ond yn hytrach oherwydd amodau gwaith diogel oherwydd y pandemig.

    Mae'n esbonio, "o'r holl bethau y mae'r GIG yn ei wneud, y gweithdrefnau cynhyrchu aerosol y mae deintyddiaeth yn dibynnu arnynt yw'r rhai mwyaf tebygol o ledaenu Covid ac felly mae'r amodau'n parhau i olygu bod yn rhaid i ddeintyddion leihau nifer y cleifion y gallant eu gweld dros ddiwrnod, mae’n rhaid iddynt gael cyfnodau hwy rhwng apwyntiadau er mwyn gwneud y gwaith glanhau angenrheidiol, ac mae hynny’n arwain at yr amgylchiadau anodd iawn y cyfeiriodd yr Aelod atynt.”

    DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. 'Angen gofal dwys ar fwy o bobl'wedi ei gyhoeddi 13:39 GMT 22 Mawrth 2022

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd gweinidogion yn penderfynu ddydd Iau a ddylid ymestyn cyfyngiadau coronafeirws, oherwydd bod y "cyd-destun yn newid".

    Dywed Mr Drakeford: "Dyna pam mae'r cabinet wedi penderfynu aros tan ddydd Iau am y ffigyrau diweddaraf ac am y cyngor diweddaraf gan y prif swyddog meddygol ac yn y blaen i'n helpu ni i wneud y penderfyniadau anodd hyn."

    “Mae’n bosib meddwl am ddyfodol lle gallem symud ymlaen gyda rhai pethau tra’n cadw eraill er mwyn ymateb i’r sefyllfa sy’n codi nawr.”

    Siaradodd ar ôl i Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru ddweud mai’r “peth call i’w wneud yn yr adolygiad wythnos nesaf yma yw peidio â newid y rheolau sydd gyda ni ar hyn o bryd, yn benodol ynglŷn â gwisgo mwgwd wyneb a hunan-ynysu”.

    Mae yna “arwyddion rhagarweiniol bod angen gofal dwys ar fwy o bobl” oherwydd y duedd gynyddol mewn achosion o is-amrywiolyn Omicron, meddai’r prif weinidog.

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Effaith cynnydd costau byw ar aelwydyddwedi ei gyhoeddi 13:32 GMT 22 Mawrth 2022

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Effaith cynnydd costau byw ar aelwydydd yw'r pwnc a godir gan Mabon ap Gwynfor.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y "bydd effaith yr argyfwng costau byw yn enfawr".

    Ychwanegodd, "bydd lefelau incwm, sydd wedi eu llethu gan ddegawd o galedi, yn cael eu gostwng ymhellach gan doriadau i werth budd-daliadau, cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a lefelau chwyddiant sy’n codi’n gyflym."

    Mae Mabon ap Gwynfor yn cyfeirio at waith ymchwil gan Sukhdev Johal a Karel Williams o Brifysgol Manceinion sy'n rhybuddio y byddwn ni'n gweld pris tanwydd i dai yn cynyddu £1,500 yr aelwyd, ar gyfartaledd, y flwyddyn; tanwydd cerbydau yn cynyddu £500 y flwyddyn; bwyd yn cynyddu dros 20 y cant.

    Mark Drakeford
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 12:59 GMT 22 Mawrth 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o ddegfed sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.