Daeargryn Morocco: 'Meddwl bod bom wedi mynd off'

Parhau ddydd Llun mae'r gwaith o chwilio am y rhai sydd yn dal ar goll wedi'r ddaeargryn ym Morocco a laddodd dros 2,100 o bobl.

Mae 2,421 arall wedi eu hanafu - nifer yn ddifrifol.

Yn ôl y rhai o Gymru a oedd yn Marrakesh ar wyliau roedd yr holl brofiad yn gwbl erchyll gydag un teulu yn dweud eu bod yn gobeithio dychwelyd ddydd Llun ond mai prin oedd unrhyw wybodaeth.

"Roedd yna sŵn dwfn," ac o'dd e "fel petai bom wedi mynd off", meddai Jane Felix-Richards o Gaerdydd oedd ar wyliau yno gyda'i theulu.

Roedd yn rhaid i fi weiddi ar y teulu i redeg ac roeddwn yn meddwl bod y to yn mynd i ddisgyn, ychwanegodd.