Rhys Iorwerth: O'dd y pili palas yn y bol yn dal i droi!

Mae enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, Rhys Iorwerth wedi cyfaddef bod y "pili palas yn y bol yn dal i droi" yn ystod y seremoni ar y maes ddydd Llun.

Y bardd o Gaernarfon ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 42 o geisiadau.

Ar ôl ennill y Gadair yn Eisteddfod Wrecsam 2011, dywedodd ei fod yn benderfynol o fwynhau'r seremoni y tro hwn.

Er iddo fwynhau, dywedodd ei fod yn dal i deimlo'r nerfau wrth eistedd yn y pafiliwn.