Croeso mawr yng Ngheinewydd i'r bad achub

Mae bad achub pob tywydd newydd gwerth £2.5m wedi cyrraedd gorsaf yr RNLI yng Ngheinewydd, Ceredigion.

Mae'r bad achub Shannon newydd wedi cymryd lle'r un blaenorol a fu'n gwasanaethu Bae Ceredigion ers dros 30 o flynyddoedd.

Yn ôl elusen Gwylwyr y Glannau, fe fydd bad achub newydd yn haneru'r amser ymateb.

Cafodd y Shannon ei chroesawu adref ddydd Sul gan y gymuned gyfan, a oedd yn dathlu mewn steil gyda pharti ar y pier.

Disgrifiwyd y foment hanesyddol hon gan yr elusen fel "breuddwyd", ar ôl i gynlluniau gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2017 i gael gwared ar fad achub Mersey a'i disodli â bad achub llai.