Pwysau eleni yn 'wahanol i unrhyw beth o'r blaen'
Mae'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd eleni yn "wahanol i unrhyw beth ni 'di gweld o'r blaen", meddai'r gweinidog iechyd.
Mae Eluned Morgan wedi ymddiheuro i staff a chleifion am y pwysau "aruthrol" sydd wedi bod ar y gwasanaeth.
Dywedodd Ms Morgan ar Dros Frecwast nad yw'r paratoadau wedi bod yn ddigon, "er ein bod ni wedi paratoi yn ddiwyd ar gyfer y gaeaf".