'Sioc' bod cwmni yswiriant yn gwrthod talu wedi anaf

Mae teulu dyn o Sir Benfro wedi annog teithwyr i graffu ar fanylion eu polisiau yswiriant yn fanwl ar ôl iddo gael ei anafu yn ddifrifol ar un o ynysoedd Gwlad Thai.

Cafodd Adam Davies, 28, o Ddinas Cross, anafiadau niferus ar ôl i'w feic modur daro yn erbyn polyn ar ynys Ko Tao ddydd San Steffan.

Ychwanegodd ffrind i'r teulu, Lucie Macleod, eu bod mewn "sioc" nad oedd y cwmni yswiriant yn fodlon talu.