Menopos: Triniaeth i fenywod yn anghyson

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef bod triniaeth i fenywod sy'n byw gyda'r menopos yn anghyson.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mae'n rhaid addysgu meddygon teulu i fod yn fwy ymwybodol o'r symptomau.

Daw hyn wrth i'r cyflwynydd Emma Walford ddweud wrth raglen Newyddion S4C iddi fynd at dri meddyg cyn cael y diagnosis cywir.