'Neb wedi sôn dim byd' am gau cartref gofal
Mae Aled Jones yn "siomedig" o glywed y bydd cartref nyrsio ei fam yn cau, heb iddo gael rhybudd.
Fe gyhoeddwyd ddydd Iau y byddai Cartref Nyrsio Abermad ger Llanfarian, Ceredigion yn cau oherwydd prinder staffio.
Ond, cafodd y newydd ei rannu cyn i nifer o deuluoedd y preswylwyr gael gwybod.
Mae Cyngor Ceredigion a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud eu bod yn rhoi cefnogaeth i breswylwyr i ddod o hyd i gartrefi eraill.