Pum munud gyda Alex Harries

  • Cyhoeddwyd
Alex HarriesFfynhonnell y llun, Alex Harries
Disgrifiad o’r llun,

Alex Harries

Mae Alex yn un o wynebau cyfarwydd dramâu S4C a'r BBC. Mae wedi ymddangos ar raglenni fel Y Gwyll, Pobol Y Cwm, 35 Diwrnod a Keeping Faith.

line

Oeddet ti wastad wedi eisiau bod yn actor?

Oeddwn a nagon. Es i i'r coleg yng Ngorseinon ar ôl gadael ysgol i neud Lefel 'A' mewn drama, hanes a hanes hynafol. Nes i ddwli ar y cyfnod hynny ond nes i ddim joio'n amser yn yr ysgol uwchradd a do'n i ddim yn dod 'mlaen gyda'r prifathro!

Doedd yr ochr academaidd o ddrama ddim yn apelio ond ro'n i'n joio'r elfen ymarferol.

Pan adewais i'r coleg fe wnes i ystyried ymuno gyda'r llynges ac fe wnes i basio'r profion cynnar a chael cynnig mynd i Dartmouth, ond es i ddim. Mae rhan ohona i'n difaru peidio â gwneud hyd yn oed heddi!

Gymerais i flwyddyn mas a symud i Gaerloyw i chwarae rygbi i'r Gordon League. Bues i'n gweithio i Severn Trent yn ystod fy amser yn fan'na. Gweithiais i wedyn i'r Swyddfa Bost, asiantaeth budd-daliadau a mewn ffatri gwneud ysgolion yn Ystradgynlais. Ro'n i mor falch o gael fy nerbyn i astudio drama yng Nghaeredin!

Sut brofiad oedd astudio yng Nghaeredin?

Heb os, dyma un o gyfnodau gorau 'mywyd i. Lynn Bains oedd yn rhedeg y cwrs, Iddewes o Efrog Newydd yn wreiddiol oedd wedi dysgu ei chrefft yn y 60au o dan arolygaeth Uta Hagen. Roedd hi'n arbennig a dysgais i cymaint ganddi.

Byddai'n fy ngwthio i brofi fy hun trwy 'nanfon i i sgwennu am bobol bydden i'n dod ar eu traws ym mharciau'r ddinas gan gynnwys pobol digartref. Roedd hi'n credu'n gryf y dylai actorion gael profiad o fywyd go iawn.

Hefyd, os nad oedd hi'n dy gredu di pan o't ti'n actio byddai'n dweud, "I don't believe you. You have to look for the truth in everything you do."

Beth wnes ti ar ôl gadael y coleg?

Fues i'n lwcus i gael gwaith gyda phanto Dafydd Hywel. Roedd e'n agoriad llygad (mewn ffordd dda). Nes i gyfres wedyn o'r enw Dau Dŷ a Ni i HTV Cymru ac yna pennod o Torchwood. Roedd e'n lot o sbort.

Un o'r pethau gorau am actio yw'r amrywiaeth rwyt ti'n ei gael o ran gwaith. Nes i dipyn o waith theatr gan gynnwys sioe un dyn o'r enw Gringo's Journey i gwmni On the Edge. Mae'r stori'n un anhygoel am ddyn o Lundain sy'n teithio o Ogledd Amreica yr holl fordd i lawr i Cape Horn.

Fues i nôl lan yn yr Alban i wneud sioe lwyfan yn Glasgow a gweithio gyda chyfarwyddwr rhyfeddol a hollol boncyrs o'r enw Laurence Rudic cyn dod nôl i neud Pobol y Cwm am ddwy flynedd.

Yna ges i gyfnod o fod allan o waith am flwyddyn cyn i mi gael cynnig i neud drama lwyfan gyda Richard Lynch yn cyfarwyddo. Es i o fan'na i neud Hinterland/Y Gwyll am bron i bedair blynedd. Roedd e'n brofiad a hanner ac yn un gwerthfawr iawn.

Alex ac Eve Myles yn Keeping Faith
Disgrifiad o’r llun,

Alex ac Eve Myles yn Keeping Faith

Oes yna un cynhyrchiad sy'n sefyll yn y cof ac os oes yna, pam?

Oes. Fe wnes i gynhyrchiad Macbeth i gwmni Theatr Volcano, Abertawe cwpwl o flynydde nôl. Dau ohonon ni oedd yn y cast, fi ac actores o'r enw Mairi Phillips o'r Alban.

Pan oedd hi'n cydio yn fy mraich i ro'n i'n credu ei bod hi'n mynd i rwygo fe bant! 'Sa i erioed wedi gweithio gydag unigolyn mor gryf â hi o'r blaen. Roedd y ddau ohonon ni'n chwarae'r holl gymeriadau yn y ddrama.

Alex Harris a Mairi Phillips yn MacbethFfynhonnell y llun, Alex Harris
Disgrifiad o’r llun,

Alex Harris a Mairi Phillips yn Macbeth

Ydi dy fagwraeth wedi cael dylanwad ar dy yrfa fel actor?

Odi i ryw raddau. Ro'n i'n ymwybodol mod i'n wahanol i lot o blant eraill yr ysgol achos ro'n i'n lico pethau do'n nhw ddim. Dwi wastad wedi bod yn ffan enfawr o ffilmiau du a gwyn yr 1930au, ffilmiau Westerns, ac o ran cerddoriaeth ro'n i'n dwli ar Bing Crosby, Frank Sinatra a bach o Opera. Y CD cyntaf nes i brynu oedd The Greatest Hits of the 50's.

Ges i'n fwlio yn yr ysgol uwchradd. Dechreuais i baffio pan o'n i'n unarddeg yng nghlwb Cwm Gors ABC. Ronnie Morris oedd yr hyfforddwr ac roedd da fe amynedd saint os o't ti'n folon gryndo. Dwi'n cofio cystadlu am y tro cyntaf pan o'n i'n 13 mlwydd oed yn Caldicot Working Men's Club. 'Sa i erioed wedi bod mor nerfus ond pan aeth y gloch i ddechrau'r ffeit 'nath y nerfau droi'n adrenalin pur.

Blwyddyn yn ddiweddarach nes i ffeito yn erbyn crwt o'r enw Gavin Haddock yn Nhrecelyn. Roedd Joe Calzaghe a'i dad yn y gynulleidfa. Doedd dim sbel wedi bod ers iddo fe ymladd yn erbyn Robbie Ried ac roedd e'n bencampwr y byd ar y pryd. Ddales i Gavin yn ei ribs a gwnaeth y reff stopio'r ffeit. Daeth Joe Calzaghe lan ata'i ar ôl yr ornest, rhoi tap ar fy ysgwydd a gweud, "Well done, boy." Ro'n i yn fy seithfed nef ar ôl hynny.

Alex Harries (chwith) yn paffioFfynhonnell y llun, Alex Harris
Disgrifiad o’r llun,

Alex Harries (chwith) yn paffio

Smo actio ar lwyfan neu deledu mor beryglus mewn cymhariaeth ond 'nath paffio ddysgu hunan ddisgyblaeth a ffocws i fi. Nes i berfformio sioe lwyfan un dyn o'r enw Shadow Boxing rai blynyddoedd yn ôl felly daeth fy mhrofiad o ymladd ar y sin amatr yn ddefnyddiol iawn!

Beth yw dy ddiddordebau? Wyt ti'n dal i baffio?

Na! Do'n i fyth eisiau cario 'mlaen ar ôl gadael yr ysgol ond dwi dal i joio watsho gornestau lleol a rhyngwladol. Fues i lan yn Leeds i weld Lee Selby yn erbyn Josh Warrington a fues i yng Nghaerdydd yn watsho Liam Williams yn erbyn Eubank Jnr yn ddiweddar.

Fel arall dwi'n dwli dilyn y Swans mewn pêl-droed. Mae fy merched, Florence a Martha, sy'n saith oed, yn fy nghadw i'n brysur fel arall dyddie 'ma!

Hoffet ti eu gweld nhw'n dy ddilyn di i'r byd actio?

Mae Zoe, fy mhartner yn actores a byddai ddim ots ganddi hi. O'm rhan i yr ateb yw na! Mae gormod o nonsens ynghlwm â'r diwydiant o'i gymharu gyda'r adeg nes i ddechrau.