
Mae wyth peiriant yn parhau yno fore Sadwrn yn dilyn yr alwad yn ystod oriau man y bore
Mae diffoddwyr wedi bod yn taclo tân mawr dros nos mewn ffatri ailgylchu yn Sir Caerffili.
Anfonwyd 18 o beiriannau i Ystâd Ddiwydiannol Blaenau'r Cymoedd, Rhymni, toc wedi 01:30.
Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 96 o alwadau gan y cyhoedd am y tân yn Dragon Recycling.
O ganlyniad, mae trigolion ardal Rhymni, Pontlotyn a Dowlais wedi'u cynghori i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd y mwg.

Anfonwyd deunaw o beiriannau i Ystâd Ddiwydiannol Blaenau'r Cymoedd, Rhymni, toc wedi 01:30
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, i "ddatblygu cynllun cadarn i liniaru unrhyw effeithiau'r tân".
Mae wyth peiriant yn parhau yno fore Sadwrn, ond ychwanegwyd nad oedd y gwasanaeth yn ymwybodol o unrhyw anafiadau.
"Cafodd presenoldeb ei ostwng y bore yma, ond maen nhw'n dal i ymladd y tân.
"Mae'r tân yn cynhyrchu llawer iawn o fwg."