
Mae plentyn wedi cael ei daro gan gar yng nghanol tref Cwmbrân.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty'r Faenor.
Ysgrifennodd cwmni bws Stagecoach ar Twitter fod y digwyddiad y tu allan i orsaf fysus Cwmbrân wedi tarfu ar eu gwasanaethau.
Roedd y ffordd ar gau am gyfnod, meddai'r cwmni, ond mae hi bellach wedi ailagor.