
Mae tribiwnlys wedi canfod y gwnaeth archfarchnad Asda wahaniaethu yn erbyn aelod o staff 75 oed sydd yn byw gyda dementia.
Fe wnaeth rheolwr Joan Hutchinson o Fwcle, Sir y Fflint, ofyn ddwywaith a oedd hi'n dymuno ymddeol o'i swydd yn siop Asda yn Queensferry, ar ôl i'w chydweithwyr sylwi ei bod hi'n drysu ac angen mwy o gymorth.
Cafodd ei symptomau eu cyflwyno iddi mewn cyfarfod, ac aeth aelod o staff trwy ei bag pan nad oedd hi'n gallu dod o hyd i'w goriadau.
Daeth y tribiwnlys yng Nghaerdydd i'r casgliad bod Asda wedi gwahaniaethu yn ei herbyn ar sail oed ac anabledd, a'i diswyddo yn annheg.
Yn ymateb i gasgliad y tribiwnlys, fe wnaeth Asda ymddiheuro i Mrs Hutchinson am ei phrofiadau.
'Trin yn anffafriol'
Buodd Mrs Hutchinson yn gweithio yn Asda am 20 mlynedd cyn ymddiswyddo ym mis Medi 2020.
Gan gyfeirio at aflonyddu ar sail anabledd ac oed, daeth y tribiwnlys i'r casgliad bod y cyflogwr wedi methu a pharchu anghenion ymddiriedaeth a chyfrinachedd, ac felly ei bod wedi ei diswyddo'n annheg.
Clywodd y gwrandawiad bod Asda yn gefnogol o Mrs Hutchinson pan y buodd yn hunan-ynysu yn ystod y cyfnod clo fel unigolyn bregus, ac fe wnaeth ei rheolwr ddod â'i siopa iddi hi.
Ond wedi i'w chydweithwyr sylweddoli ar symptomau dementia Mrs Hutchinson, cafodd y penderfyniad i ymddeol ei godi.
Fe wnaeth y tribiwnlys hefyd ddod i'r casgliad bod urddas Mrs Hutchinson wedi ei heffeithio pan aeth aelod o staff trwy ei bag, a'i bod hi wedi cael ei thrin yn "anffafriol".
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Asda: "Mae Asda yn gyflogwr cynhwysol sydd yn falch i gyflogi staff o bob oed.
"Rydyn ni'n ymddiheuro i Mrs Hutchinson am ei phrofiadau hi."