5 peth i'w wneud i gael Dolig Gwyrdd

  • Cyhoeddwyd
Bin llawn sbwriel Nadolig a choeden Nadolig ar ei hochrFfynhonnell y llun, ClarkandCompany

Wyth miliwn o goed Nadolig, 227,000 milltir o bapur lapio, a gwerth £42m o anrhegion yn cael eu taflu i'r sbwriel bob blwyddyn - mae Nadolig Gwyrdd yn fwy prin na Nadolig Gwyn.

Gyda'r amgylchedd wedi cael cymaint o sylw eleni yn sgil cynhadledd COP26 yn Glasgow, Cymru Fyw fu'n cael cyngor ynglŷn â sut i fwynhau'r Nadolig wrth leihau eich ôl troed carbon.

1. Torch Nadolig bwytadwy

Yn hytrach na phrynu torch i'w roi ar y drws ffrynt a'i daflu yn y bin ar ôl y Nadolig, gwnewch un sy'n bosib ei fwyta.

Dyna gyngor Gwenllian Spinks, swyddog gwastraff gyda chwmni cymunedol Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle.

Meddai: "Mae'n bosib gwneud torch Nadolig gyda pherlysiau, fel rhosmari, dail bay, saets.

"Mae fy mam wedi cael un gan ei ffrind, felly mae'r torch ar ddrws blaen y tŷ ac yna wedi'r Nadolig fe fydd hi'n ei ddefnyddio i goginio.

"Mae'r un yma wedi'i neud gyda dail bay, efo siocledi coch yn y canol! Gallwch ddefnyddio rhosmari a bay o'r ardd yn y gaeaf, sy'n fwy 'gwyrdd' na phrynu perlysiau o'r archfarchnad."

Torch perlysiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Torch defnyddiol - dail bay a siocled...

2. Galwad ffôn yn lle gyrru cerdyn

Gyda biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu hanfon ym Mhrydain bob blwyddyn, mae cyfarchion yr ŵyl yn dod â phleser i nifer fawr o bobl... ond yn newyddion drwg i'r 33 miliwn o goed sy'n cael eu torri i lawr er mwyn eu cynhyrchu.

Mae defnyddio e-bost neu bostio cyfarchion ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar, ond mae syniad arall sy'n llawn ysbryd yr ŵyl.

Elenid Roberts ydi swyddog Be Wnawn Ni?, prosiect cwmni cydweithredol Yr Orsaf sy'n gweithio gyda phobl hŷn ardal Dyffryn Nantlle.

Un o'r syniadau sydd wedi codi o drafodaethau gyda'r gymuned ydi diwrnod 'paned, cacen a sgwrs' er mwyn dod dros unigrwydd.

"Un o'r pethau sy'n dod i'r amlwg o'r trafodaethau ydi pa mor bwysig ydi cael cwmni," meddai Elenid, sydd hefyd yn gydlynydd trafnidiaeth Yr Orsaf.

"Felly yn lle gyrru cerdyn eleni, be' am godi'r ffôn a rhoi galwad i rywun a chael sgwrs efo person fyddai'n gwerthfawrogi hynny? Mae rhoi'r amser i rywun am sgwrs yn golygu cymaint i bobl."

Gwenllian ac ElenidFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian Spinks ac Elenid Roberts, y ddwy yn gweithio gyda chwmni cymunedol Yr Orsaf

3. Anwybyddwch yr holl hysbysebion di-ri - a phrynwch yn ail-law

Aur, thus a myrr oedd yr anrhegion Nadolig cyntaf, ond o ystyried yr holl bryderon am yr amgylchedd pa mor ddoeth ydi'r arferiad cyfoes o roi cymaint o bresantau?

Efallai nad dyma'r cyngor mwyaf poblogaidd cyn y Nadolig, ond er mwyn lleihau niwed i'r blaned mae'n hanfodol prynu llai dros yr ŵyl.

Dyna farn Ru Hartwell, sy'n rhedeg The Climate Shop yn Aberystwyth a Llanbed, siop nid-er-elw sy'n gwerthu deunydd ail-law ac yn plannu coed efo'r elw.

Mae'n dweud bod angen i bawb ddeall bod cost amgylcheddol i'r rhan fwyaf o bethau rydyn ni'n eu prynu'n newydd - o'r deunydd crai, i'r gwaith cynhyrchu, i'r broses o'i ddosbarthu - ac felly mae'n well i'r blaned os ydyn ni'n prynu yn ail-law.

Meddai: "Y gwir anghyfleus ydi ein bod ni gyda'n gilydd yn dinistrio'r blaned drwy siopa, a bob blwyddyn mae'n dod i ben llanw dros y Nadolig gyda'r holl wario dinistriol.

"Ugain mlynedd yn ôl roedd prynu'n ail-law yn rhywbeth oedd bron yn gywilyddus i'w wneud - ond rŵan mae pethau'n newid. Rydyn ni'n meddwl mai prynu pethau newydd fydd yr opsiwn cywilyddus yn y dyfodol - fel ysmygu yn y car neu gymryd bwyd gan blant, oherwydd i ni, mae prynu rhywbeth newydd fel cymryd rhywbeth gan genedlaethau'r dyfodol er mwyn chi eich hun."

Ru HarwelllFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ru Hartwell yn ei siop, sydd wedi casglu digon o arian i blannu 350,000 o goed trofannol yn Affrica

4. Taleb bersonol fel anrheg

Mae'n bosib rhoi anrheg heb brynu unrhywbeth, yn ôl Ru Hartwell. Mae talu am brofiadau i bobl wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, ond mae'n bosib hefyd rhoi taleb bersonol am wasanaeth fyddai'n cael ei werthfawrogi.

Meddai Ru: "Gallai'r daleb ddweud 'Taleb i olchi llestri am wythnos, unrhywbryd.' Mae'r math yna o beth yn cael ei werthfawrogi yn fy mhrofiad i...

"Byddwch yn greadigol, a meddyliwch yn galed am beth fyddai'r person wirioneddol ei eisiau."

5. Llysiau lleol

Ac yn olaf, rhan bwysig iawn o'r Nadolig - bwyd.

Mae ymchwil yn dangos fod cinio Nadolig arferol i deulu o chwech yn gollwng cymaint o garbon deuocsid â gyrru 78.5 milltir mewn car petrol.

I leihau eich ôl troed carbon, cyngor Elenid Roberts o'r Orsaf ydi osgoi llysiau sydd wedi cael eu hedfan o ben arall y byd, a sydd fel arfer wedi eu hamgylchynu gan blastig, gan brynu'n lleol.

Meddai: "Mae 'na lot o lefydd erbyn hyn sy'n gwerthu bocsys llysiau - mae un o gwmpas fan yma yn ardal Nebo, ac mae nifer ohonyn nhw'n gwneud bocsys arbennig ar gyfer y Nadolig.

"Felly yn hytrach na mynd i'r archfarchnad i brynu popeth, prynwch lysiau sydd wedi eu tyfu yn lleol."