Hawl i gynnal seremoni priodas mewn gwestai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dafydd a LowriFfynhonnell y llun, Lowri Mair Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd a Lowri fod i briodi ym mis Medi 2020 ond maen nhw wedi ei gohirio tan 2022

O ddydd Llun bydd modd cynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil mewn gwestai a mannau trwyddedig eraill yng Nghymru wrth i gyfyngiadau Covid lacio yn raddol.

Ond i'r rhan fwyaf o gyplau "dydy'r newid yn fawr o beth", medd perchennog gwesty Pentre Mawr yn Llandyrnog yn Sir Ddinbych.

Dywed Bre Carrington-Sykes, fod priodasau yn fwy na seremoni ac mae'n galw am fwy o eglurder.

"Rydyn ni angen map i ddangos y ffordd allan o'r cyfnod clo ac rydyn ni angen gwybod beth sy'n mynd ymlaen ym mhen y prif weinidog.

"Dydy'r llywodraeth ddim yn deall bod priodas yn fwy na mynd allan am bryd o fwyd i fwyty - mae 'na gryn gynnwrf fel arfer cyn y digwyddiad, mae'n ddiwrnod costus ac mae cyplau yn haeddu cael diwrnod da."

Bre Carrington-Sykes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bre Carrington-Sykes o Landyrnog yn dweud bod angen map i nodi'r ffordd allan o'r cyfnod clo

Mae nifer y bobl sy'n cael mynd i'r briodas yn dibynnu ar maint y lleoliad a'i allu i sicrhau fod pobl o wahanol gartrefi yn cadw pellter cymdeithasol o 2m.

Cyn hyn dim ond swyddfeydd cofrestru ac addoldai oedd â hawl i gynnal priodasau yn unol â'r cyfyngiadau.

Does dal dim hawl i gynnal neithiorau priodas yng Nghymru ac hyd yma dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi nodi dyddiad ar gyfer hynny.

line break

Ymhlith y rhai a oedd wedi gobeithio priodi yn 2020 roedd Lowri a Dafydd - y ddau bellach wedi cartrefu ger Ciliau Aeron yng Ngheredigion.

Lowri a DafyddFfynhonnell y llun, Lowri Mair Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri a Dafydd wedi gohirio eu priodas tan fis Mai 2022

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Lowri, sy'n wreiddiol o Lanfihangel-y-Creuddyn "ei bod hi a Dafydd wedi edrych ymlaen i briodi ym mis Medi 2020".

"Nathon ni feddwl ar ôl gorfod gohirio yn 2020 y bydden i'n priodi ym mis Ebrill 'leni ond ni wedi penderfynu yn y diwedd bwrw'r dyddiad mla'n i fis Medi 2022," meddai.

"Do'dd dim hast arnon ni i ddweud y gwir - a ma'n well 'da ni gael priodas ddeche - cael ein teulu a'n ffrindiau yn bresennol.

"Ni wedi bod yn lwcus ofnadwy - does dim stress wedi bod ac mae pawb yn deall yn iawn."

'Ddim am gau eto'

Dywed Alaw Griffiths, trefnydd priodas sydd i'w gweld yn aml ar y rhaglen Priodas Pum Mil, bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bawb.

"Mae wedi bod yn anodd i ni fusnesau ond anodd iawn iawn i gyplau - mae'r cyfan wedi effeithio ar filoedd ac mae pawb yn deall bod rhaid derbyn y sefyllfa bellach fel mae hi o ddydd i ddydd.

"Does neb mewn gwirionedd yn gwybod beth fydd y sefyllfa fis nesaf, heblaw sôn am haf nesaf," meddai.

"Mae'r cyplau dwi wedi bod yn gneud efo nhw wedi ymateb mewn ffyrdd gwahanol - rhai wedi ypsetio yn ofnadwy ac eraill yn derbyn y sefyllfa yn cŵl i gyd."

Alaw GriffithsFfynhonnell y llun, Priodas Pum Mil
Disgrifiad o’r llun,

'Dwi ddim yn ffyddiog y bydd priodasau mawr eleni,' medd Alaw Griffiths, trefnydd priodas y gyfres Priodas Pum Mil

"Mae rhai yn dal i fyw mewn gobaith y byddant yn cael priodi eleni ond dwi ddim mor ffyddiog fy hun," ychwanegodd.

"Mae llawer bellach wedi derbyn y sefyllfa. Mae rhai wedi priodi'n breifat ac wedi mwynhau hynna a jyst canolbwyntio ar y ddau ohonyn nhw.

"Effaith llai o ffws a ffwdan, wrth gwrs, yw llai o waith i bobl fel fi ond dwi ddim yn codi hyn efo neb - rhaid bod yn sensitif.

"Yr hyn sy'n andros o hyfryd yw gweld bod lot fawr o gydweithio wedi digwydd ac mae rhai busnesau wedi gweld y cyfnod fel un i fod yn greadigol.

"Dwi'n gwybod am un ffotograffydd sydd wedi colli 30 priodas ac wedi mynd ati i dynnu lluniau anifeiliaid anwes.

"Ar ryw ystyr mae yna ryw ramant newydd wedi dod i'r golwg yn y cyfnod hwn."

PortmeirionFfynhonnell y llun, Geograph / Jeff Buck
Disgrifiad o’r llun,

'Y peth gwaethaf all digwydd yw ein bod yn gorfod cau eto wedi ailagor," medd Robin Llywelyn

Bydd y cyfyngiadau arferol mewn grym wrth i'r cyfyngiadau lacio rywfaint - dim ond nifer bach o westeion fydd yn gallu bod yn bresennol a bydd pawb yn gorfod gadael wedi'r seremoni.

Dywedodd Robin Llywelyn, rheolwr gyfarwyddwr Gwesty Portmeirion fod yna "dipyn o briodasau bach ar y llyfrau yn Ebrill a Mai a rhai mwy wedyn o Fehefin ymlaen os fyddan nhw'n cael digwydd".

"Y peth ola 'dan ni isio yw ailagor a chau eto - byddai'n well gen i weld yr haint yn cael ei guro a bod pobl yn cael y brechlyn ac yna ein bod yn cael agor yn ddiogel a dal ati wedyn yn de.

"'Dan ni ddim yn poeni am y galw - y gallu i gynnal y gwasanaeth ydi'r peth mawr."

Pynciau cysylltiedig