Elusen Lesotho yn rhoi'r gorau i weithredu
- Cyhoeddwyd

Mae'r wlad yn dioddef o brinder dŵr i ddyfrhau cnydau
Mae elusen ym Mro Morgannwg sydd wedi codi arian ar gyfer gwlad fach fynyddig yn neheudir Affrica am dros 13 o flynyddoedd wedi rhoi'r gorau i weithredu oherwydd prinder ymddiriedolwyr.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Lesotho Penarth a'r Cylch yn 2008, ond bu'n rhaid i hanner y 12 ymddiriedolwr orfod ymddiswyddo yn y flwyddyn ddiwethaf am resymau teuluol neu iechyd.
Ofer oedd ymdrechion i ddenu pobl ifancach yn eu lle ac felly mae'r llyfrau wedi cau gan ddosbarthu arian sy'n weddill i bobl sydd ei angen yn Lesotho.
"Mae'n drist ein bod ni'n gorfod gorffen, ond dwi'n hapus iawn ein bod wedi helpu," medd y trysorydd, Dilwyn Samuel.

Trefnodd yr elusen nifer o ddigwyddiadau casglu arian dros y blynyddoedd
Mae'r cysylltiadau rhwng yr ardal â Lesotho yn dyddio o 2000, pan roedd Mr Samuel yn brifathro ym Mhenarth.
"Dechreuon ni yn yr ysgol godi arian i ddanfon allan, a danfon llythyrau o'r plant mas 'na a ni'n cael llythyron yn ôl.
"Wedyn, ar ôl i fi ymddeol yn 2006, aethon ni mas fel grŵp arall, ac o fanno i ddweud y gwir ddaeth y gwaith mawr i ddechre."
Roedd yna sawl ddigwyddiad i godi arian, ac fe gafodd adnoddau ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, eglwysi ac ysbytai eu casglu yng Nghymru a'u hanfon i Lesotho.
Cafodd cysylltiadau eu ffurfio rhwng ysgolion ac eglwysi yn y ddwy wlad, ac roedd rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion ardal Penarth ymweld â Lesotho i wneud gwaith elusennol.
Ymwelodd pobl ifanc, yn bennaf o Ysgol Stanwell, ag ardal Teyateyaneng bob dwy flynedd gan fynd ag adnoddau dysgu gyda nhw.
Roedden nhw hefyd yn treulio cyfnodau yn addysgu yn Ysgol Uwchradd Rantuba ac Ysgol Gynradd Matthias.

Mae'r elusen hefyd wedi helpu lliniaru effeithiau sychder yn y wlad, cyfrannu at hyfforddi nyrs, cefnogi clinig yn y brifddinas, Maseru, a chefnogi prosiect sy'n dysgu pobl ifanc am ddulliau amaethu cynaliadwy.
"Mae'n wlad fynyddig, mae'n wlad garegog iawn," meddai Mr Samuel.
"Does dim lot yn tyfu yna. Mae'r tywydd yn troi o fod yn dwym iawn i fod yn oer iawn, lot o law... mae'n anodd iawn i'r bobl."
O ganlyniad mae llawer o bobl yn chwilio am waith yn Ne Affrica, sy'n amgylchynu Lesotho, gan dreulio "amseroedd hir" ar wahân i'w teuluoedd.
Dywed Mr Samuel bod yr elusen wedi codi dros £160,000 gan ddanfon "pob ceiniog" i Lesotho.
"Wrth feddwl am hynny, dwi'n hapus iawn bod ni wedi, dros y tair blynedd ar ddeg, wedi gallu helpu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2016

- Cyhoeddwyd12 Mai 2016
