Secret Reprieve yn ennill Grand National Cymru

  • Cyhoeddwyd
Secret ReprieveFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y tro cyntaf i geffyl yr hyfforddwr o Gymru, Evan Williams ennill y ras

Y ffefryn Secret Reprieve ac Adam Wedge oedd yn fuddugol wrth i Grand National Cymru gael ei chynnal o'r diwedd yng Nghas-gwent ddydd Sadwrn.

Roedd y ras i fod i gael ei chynnal ar 27 Rhagfyr ond bu'n rhaid ei gohirio gan fod rhan o'r cwrs dan ddŵr.

Dyma oedd y tro cyntaf i geffyl yr hyfforddwr o Gymru, Evan Williams ennill y ras, wedi iddo gael ceffylau'n dod yn ail, trydydd a phedwerydd yn y gorffennol.

Two Amigos oedd yn ail, gyda Yala Enki yn drydydd a Captain Drake yn bedwerydd.

Mae hefyd yn golygu, ar ôl mynd 54 mlynedd heb enillydd o Gymru, Cymry sydd wedi bod yn fuddugol ddwywaith yn olynol bellach wedi i Potters Corner ennill yn 2019.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol