
Mae 69 yn rhagor o bobl wedi marw o ganlyniad i Covid-19 ac mae 2,334 o bobl eraill wedi profi'n bositif yng Nghymru.
Dyma ydy'r cyfanswm dyddiol mwyaf o ran marwolaethau yn ystod y pandemig.
Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) yn mynd â chyfanswm y marwolaethau i 3,115.
Bu 34 marwolaeth yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, sy'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Roedd 19 o farwolaethau eraill yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n cynnwys hen ranbarth Gwent a sir Caerffili.
Roedd chwe marwolaeth yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe, gyda phum marwolaeth yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro.
Bu tair marwolaeth arall yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yng ngorllewin Cymru ac un farwolaeth yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n cynnwys gogledd Cymru, a marwolaeth arall yn ardal bwrdd iechyd Powys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020
