Dedfrydu dyn am ddifrodi tacsi gyda thractor ar ôl ffrae
- Cyhoeddwyd

Roedd James Peacock wedi cyfaddef gyrru'n beryglus, ac fe gafodd ddedfryd o bedwar mis wedi ei gohirio am 12 mis
Mae ffermwr 23 oed wedi cael dedfryd o garchar wedi'i gohirio ar ôl iddo achosi difrod i dacsi gyda thractor.
Roedd James Peacock o Langristiolus, Ynys Môn, wedi bod mewn ffrae â gyrrwr y tacsi, Paul McKeown, ar ôl noson allan ym Mangor.
Clywodd y llys fod bwyd wedi disgyn ar lawr y tacsi, a bod y gyrrwr yn ddiweddarach wedi taro Peacock ar ei ben gydag arf. Mae Mr McKeown yn gwadu hynny.
Ar ôl cyrraedd adref, penderfynodd y ffermwr fynd yn ei dractor at y tacsi, a gyrrodd ffyrch y tractor drwy'r cerbyd, gan ei godi oddi ar y lôn.
Disgrifiodd y barnwr, y cofiadur Simon Mills, y digwyddiad fel "esgeulustod peryglus a difrifol yn hytrach na defnydd o gerbyd fel arf".
'Sawl achlysur i ailystyried'
Dywedodd wrth Peacock fod ganddo sawl achlysur y noson honno i ailystyried yr hyn oedd o'n ei wneud, ond ei fod wedi dyfalbarhau.
Gan sôn am y gyrrwr, ychwanegodd: "Ni wnaethoch ei anafu'n ddifrifol ond mae eich penderfyniad peryglus yn golygu ei fod wedi colli ei gerbyd ac wedi creu dychryn ac ofn iddo."
Roedd Peacock wedi cyfaddef gyrru'n beryglus ac fe gafodd ddedfryd o bedwar mis wedi ei gohirio am 12 mis.
Cafodd hefyd orchymyn i wneud 180 awr o waith di-dâl yn y gymuned a gwaharddiad rhag gyrru am 12 mis.
Bydd yn rhaid iddo dalu costau o £500 yn ogystal.