Gobaith y gall Cymru elwa ar ôl gohirio Euro 2020
Mae'r chwaraewr pêl-droed Joe Allen yn gobeithio y gall Cymru elwa o'r penderfyniad i ohirio cystadleuaeth Euro 2020 am flwyddyn.
Fe gafodd chwaraewr canol cae Stoke anaf difrifol i'w goes ym mis Mawrth, a fyddai wedi golygu y byddai'n methu'r gystadleuaeth eleni.
Bu'n siarad gyda'r sylwebwyr Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar eu podlediad - Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds.