Tri wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Bu'r gwasanaethau brys yn gweithio am dros ddwy awr i dorri pobl yn rhydd o'r cerbydauFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r gwasanaethau brys yn gweithio am dros ddwy awr i dorri pobl yn rhydd o'r cerbydau

Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng pedwar cerbyd yn Sir Gaerfyrddin nos Fawrth.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub y De a'r Canolbarth fe wnaeth pedwar car daro yn erbyn ei gilydd ar ffordd yr A476 rhwng Llanon a Tymbl Uchaf i'r gogledd o Lanelli am 18:20.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub bod un car wedi troi ar ei ochr a bod pobl yn gaeth mewn tri o'r cerbydau.

Bu'r gwasanaethau brys yn gweithio am dros ddwy awr i dorri pobl yn rhydd.

Cafodd tri o bobl eu cludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin i gael triniaeth bellach.

Roedd y ffordd yn parhau ar gau nos Fawrth wrth i'r gwasanaethau brys ymchwilio i'r digwyddiad.