Gyrrwr wedi marw a theithiwr wedi anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Mhowys ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ger Llanwrtyd am tua 12:50pm, a bod y gyrrwr wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd teithiwr yn y car anafiadau difrifol, ac maen nhw'n parhau i fod yn yr ysbyty.
Yn ôl yr heddlu roedd y car yn teithio mewn confoi gyda phedwar cerbyd arall, ac fe wnaeth y teithwyr hynny aros i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad.
Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.