Rhybudd wedi damwain gleider a laddodd dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
Martin Bishop a Roderick WeaverFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Martin Bishop a Roderick Weaver yn ystod taith i ymarfer glanio gleidar mewn argyfwng

Mae ymchwilwyr damweiniau awyr wedi cyhoeddi rhybudd diogelwch ynghylch hediadau hyfforddi awyrennau ysgafn wedi digwyddiad angheuol yn Sir Fynwy y llynedd.

Bu farw Roderick Weaver, uwch hyfforddwr 68 oed o Gaerdydd, a Martin Bishop, gleidiwr 61 oed o'r Fenni, ar ôl taro coeden a glanio mewn cae ger Rhaglan.

Yn ôl adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB), mae'n bosib bod rhew wedi achosi problem yn injan y gleider fodur Grob G109.

Roedd y ddau ddyn wedi hedfan o safle clwb gleidio ym Mrynbuga ar 10 Mehefin gyda'r bwriad o gynnal ymarferiad glanio argyfwng i'r gogledd o Raglan.

Fe deithiodd y gleider mewn cylchoedd am gyfnod cyn glanio. Fe welodd nifer o dystion yr awyren yn hedfan yn isel cyn y ddamwain, ac yn ôl un roedd yn swnio fel bod yna drafferthion gyda'r injan.

Dywedodd tyst arall, oedd o fewn 500 medr i le laniodd yr awyren, eu bod yn amau iddyn nhw glywed sŵn injan yn cam-danio, fel petai rhywun yn ceisio ei haildanio.

Roedd hynny eiliau cyn clywed sŵn y gleider yn taro'r ddaear.

Risgiau neilltuol

Dywedodd yr ymchwilwyr bod yna wrych hir yn y cae lle laniodd y gleider a bod yna dderwen farw yng nghanol y gwrych oedd, o bosib, yn amhosib i'r ddau ddyn ei gweld tan roedd hi'n rhy hwyr i osgoi damwain.

Safle'r ddamwain
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr ymchwilwyr bod y gleidar wedi taro cangen uchel derwen farw cyn plymio i'r ddaear

Doedd dim tystiolaeth bod unrhyw beth o'i le gyda'r injan ond roedd yn bosib bod rhew wedi cael effaith wrth i'r gleider syrthio.

Dywedodd yr AAIB bod nifer o achosion gleiderau modur difrifol wedi bod yn y DU cyn y ddamwain dan sylw a bod yna risgiau neilltuol o ran hyfforddi i lanio mewn argyfwng.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y gyfradd o ddamweiniau gleiderau modur wedi bod yn "rhy uchel am nifer o flynyddoedd" a bod achosion difrifol ar gynnydd.

Fe gyhoeddodd y BGA (British Gliding Association) ganllawiau newydd ar lanio argyfwng fis wedi'r ddamwain yn Sir Fynwy.

Straeon perthnasol