Teyrngedau wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Bu farw Leighton Morris yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4232
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn ardal Caerdydd ddydd Iau wedi talu teyrnged "ŵr bonheddig caredig."
Bu farw Leighton Morris, 63 oed yn y fan ar lle yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd ddydd Iau.
Wrth dalu teyrnged, dywedodd aelodau o'r teulu eu bod "wedi dychryn ac yn drist yn dilyn yr hyn ddigwyddodd."
Ychwanegodd fod "Leighton yn ŵr bonheddig oedd yn garedig ac yn llawn jôcs".
"Ar ôl ei deulu, cerddoriaeth oedd popeth iddo. Roedd yn dalentog iawn yn yr ardd ac roedd yn gobeithio ymweld â sioe flodau Chelsea y flwyddyn nesaf.
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r sawl frwydrodd i geisio achub ei fywyd," meddai.
Mae Heddlu'r De yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad ac am unrhyw dystiolaeth dashcam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019
