Diffynnydd achos llofruddiaeth Trealaw wedi marw
- Cyhoeddwyd

Dywed yr heddlu eu bod yn rhoi cefnogaeth i deulu Lana Owen 'yn y cyfnod anodd yma'
Mae dyn oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 46 oed yn Rhondda Cynon Taf wedi marw tra'n aros i sefyll ei brawf.
Yn ôl Heddlu De Cymru, bu farw Philip George Andrews - 51 oed ac o Drealaw, Tonypandy - yn sydyn, a'u bod yn deall iddo farw o salwch terfynol.
Roedd wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl bod o flaen llys ynadon a Llys Y Goron mewn cysylltiad â llofruddiaeth Lana Owen ym mis Rhagfyr.
Bydd Crwner Ei Mawrhydi yn bwrw ymlaen â'r broses arferol yn achos y ddwy farwolaeth.
Dyweddodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym yn parhau i gefnogi teulu Lana yn y cyfnod anodd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018
