Mam wedi lladd ei merch 'oherwydd seicosis difrifol'
- Cyhoeddwyd

Clywodd y llys bod Carly Ann Harris yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ar y pryd
Mae llys wedi clywed bod mam o Rondda Cynon Taf yn dioddef o seicosis difrifol pan wnaeth hi foddi ei merch yn y bath yn eu cartref.
Mae Carly Ann Harris, 38, yn gwadu llofruddiaeth a dynladdiad ei merch pedair oed, Amelia, gan ddweud nad oedd hi yn ei iawn bwyll ar y pryd.
Clywodd Llys y Goron bod Ms Harris yn credu y byddai lladd ei merch yn achub dynolryw.
Dywedodd y seicolegydd clinigol Dr Arden Tomison bod Ms Harris yn credu ar y pryd ei bod yn gwneud y peth iawn.
Bydd rhaid i'r rheithgor benderfynu a ydy Ms Harris yn ddieuog o lofruddiaeth oherwydd gwallgofrwydd, neu'n euog o ddynladdiad am nad oedd hi yn ei iawn bwyll.
Clywodd y rheithgor bod y diffynnydd wedi dechrau datblygu symptomau seicotig ar ddiwedd 2017, a bod hynny wedi troi'n salwch seicotig difrifol erbyn Pasg eleni.

Roedd Amelia Brooke Harris yn bedair oed pan fu farw
Ar ôl boddi Amelia yn y bath fe wnaeth Ms Harris gymryd corff ei merch i'r ardd a'i roi ar dân.
Dywedwyd wrth y llys bod y ddwy weithred yma'n cyd-fynd â chredoau yn yr Hen Destament sy'n helpu'r broses o fynd i'r nefoedd.
Dywedodd Dr Tomison wrth y rheithgor: "Roedd hi'n siŵr yn ei meddwl bod angen gwneud hyn yn ôl gorchymyn Duw."
Clywodd y llys hefyd, wedi i Ms Harris gael ei arestio, ei bod yn ymddangos wedi drysu ynglŷn â pham roedd hi yn y carchar.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018
