Ulster 16-12 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Williams
Disgrifiad o’r llun,

Nick Williams yn brwydro yn erbyn ei hen dîm, Ulster

Mewn gem anniben yn Stadiwm Kinsgpan, sgoriodd Ulster ddwy gic cosb hwyr i guro'r Gleision.

Cyn hynny, sgoriodd y Gleision ddau gais - ond roedd ciciau cosb John Cooney yn allweddol yn dilyn cerdyn melyn dadleuol Seb Davies.

Fe ddaeth yr holl geisiau yn yr hanner cyntaf - Mathew Morgan â'r cais agoriadol i Gaerdydd -cyn i Kieran Treadwell daro 'nol i Ulster.

Daeth cais arall i Gaerdydd - Kristian Dacey yn croesi i roi mantais o bwynt i'r Gleision.

Trobwynt y gêm yn yr ail hanner oedd y cerdyn melyn i flaenwr Caerdydd Seb Davies, am wrthdaro hwyr yn erbyn Ross Kane, ac fe ddaeth holl bwyntiau Ulster yn yr ail hanner oddi ar droed John Cooney.