Marathon Eryri yn ymddiheuro i redwyr siomedig
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr Marathon Eryri 2019 wedi ymddiheuro i redwyr gafodd drafferthion wrth geisio cofrestru ar gyfer y ras.
Cafodd pob un lle ar gyfer y cystadleuwyr eu prynu ar wefan y marathon yn fuan ar ôl i'r broses gofrestru ddechrau fore Sadwrn.
Yn ôl Jayne Lloyd, cydlynydd y ras, roedd pob lle ar gyfer y digwyddiad yn llawn o fewn 10 munud, ac fe roddwyd system daliadau'r wefan o dan bwysau mawr.
Roedd 2800 o lefydd ar gael ond ar un adeg roedd 4000 o ddefnyddwyr yn ceisio cael mynediad at y wefan.
Yn ôl rhai athletwyr, fu'n cwyno ar Twitter, roedd y profiad o geisio cofrestru a thalu £39 ar gyfer y digwyddiad yn "shambles."
Mewn datganiad ar Facebook dywedodd Jayne Lloyd: "Fe hoffwn ymddiheuro o galon am y trafferthion a gafwyd ac i'r rhai fethodd a chael lle y tro hwn."
"Rydym yn ymwybodol iawn bod llawer wedi cael trafferthion ac o bosib wedi methu sicrhau lle yn y marathon".
"Bob blwyddyn mae'r ras yn tyfu'n fwy a mwy poblogaidd a rhaid i ni sicrhau y gallwn gwrdd â disgwyliadau'r rhedwyr ac ymwelwyr a byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i fodloni'r disgwyliadau hyn, ac mae hynny'n cynnwys y broses o gofrestru i'r ras"
Bydd y ras yn digwydd ar Hydref 26ain 2019.