Angen ail edrych ar reol iaith yr Eisteddfod?
Mae yna le i ail edrych ar reol iaith yr Eisteddfod, ond nid ar draul y Gymraeg, yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith y brifwyl y flwyddyn nesa.
Mae angen "trafodaethau synhwyrol" am y posibilrwydd o allu perfformio neu ganu mewn rhai ieithoedd lleiafrifol eraill, meddai Trystan Lewis.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Elfed Roberts yr wythnos diwetha' bod 'na le i gyfaddawdu ar y rheol iaith.
Yn ôl llefarydd ar ran yr Eisteddfod, byddai'n rhaid cael sêl bendith cyfarfod Llys yr Eisteddfod yn 2019 i newid o'r fath ddigwydd.