Marwolaeth Cyprus: Gohirio achos llys tan fis Medi
- Cyhoeddwyd

Bu farw Charlie Birch, 39, o'r Trallwng yn Paphos ar ynys Cyprus
Mae llys yn Nghyprus wedi pennu dyddiad ar gyfer achos yn erbyn dyn sy'n cael ei gyhuddo o ladd Cymro o Bowys.
Bu farw Robert James Birch, 39 oed o'r Trallwng, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Charlie Birch, ar ôl cael ei daro gan gar ger dinas Paphos ar 24 Mehefin.
Methodd gyrrwr y car â stopio wedi'r gwrthdrawiad, a dywedodd yr heddlu fod y car wedi'i ganfod yn y môr yn ddiweddarach.
Cafodd dyn 35 oed a dynes 23 oed eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio. Mae'r ddynes bellach wedi'i rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Fe gafodd y car ei ddarganfod yn y môr gan yr heddlu yng Nghyprus
Dywedodd cyfreithiwr ar ran y diffynnydd nad oedd ei gleient yn barod i gyflwyno ple ar hyn o bryd.
Mae cyfreithwyr ar y ddwy ochr yn parhau i ddisgwyl am ddatganiadau a darnau eraill o dystiolaeth sy'n berthnasol i'r achos.
Cafodd dyn arall, William Pritchard, 32 oed sydd hefyd o'r Trallwng ei anafu yn yr un digwyddiad. Mae bellach adre o'r ysbyty.
Mae'r achos wedi'i ohirio tan 19 Medi pan mae disgwyl i'r diffynnydd gyflwyno ple.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018

- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2018
