Cwpan Her Ewrop: Gleision Caerdydd 29-19 Lyon

  • Cyhoeddwyd
rygbiFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Gleision Caerdydd wedi cael dechrau cadarnhaol i'w hymgyrch yng Nghwpan Her Ewrop, gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Lyon ym Mharc Arfau nos Wener.

Fe sicrhaodd y tîm cartref y fantais gynnar yn y gêm, gan orffen yr hanner cyntaf 14-0 ar y blaen.

Llwyddodd George Earle, Tomos Williams, Macauley Cook a Rey Lee-Lo i groesi'r llinell i'r Gleision, gan sicrhau'r pwynt bonws.

Fe sgoriodd Lyon dair cais ond methodd y Ffrancwyr â sicrhau pwynt bonws, ac fe gafodd cyn-gefnwr Lloegr Delon Armitage anaf yn yr hanner cyntaf wnaeth ei orfodi i adael y cae.