Cynnydd o 50% yn nifer y ceir heb yswiriant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bentley Continental oedd un o'r ceir gafodd ei atafaelu - cafodd ei werthu'n ddiweddarach am £14,500
Mae nifer y cerbydau heb yswiriant sydd wedi eu hatafaelu yng Nghymru wedi cynyddu dros 50% mewn tair blynedd, yn ôl ffigyrau newydd.
Fe wnaeth lluoedd heddlu Dyfed Powys, y Gogledd a'r De gymryd 4,831 o geir yn 2016, o'i gymharu â 3,137 yn 2013.
Roedd dau o'r lluoedd hefyd wedi codi £160,000 wrth sgrapio neu werthu'r cerbydau ar ôl eu hatafaelu.
Dywedodd Canolfan yr Yswirwyr Modur (MIB) mai "gyrwyr onest" oedd y rhai oedd yn talu'r pris yn y diwedd am geir oedd heb eu hyswirio.
Gwerthu Bentley
Daw'r ffigyrau yn sgil pryderon fod achosion o hawlio yn erbyn gyrwyr heb yswiriant wedi cynyddu am y tro cyntaf mewn degawd.
Dywedodd llefarydd ar ran MIB: "Beth 'dyn ni'n ei wybod yw ein bod wedi gweld cynnydd o 10% yn nifer yr hawliadau heb yswiriant mae MIB wedi eu derbyn ar draws y DU.
"Mae hyn yn tanlinellu fod angen i ni barhau i daclo gyrru heb yswiriant ar raddfa wladol."
Fe wnaeth y ffigyrau diweddaraf, ddaeth i law drws gais rhyddid gwybodaeth, ddangos fod nifer y cerbydau gafodd eu hatafaelu gan Heddlu De Cymru rhwng 2013 a 2016 godi o 1,347 i 2,867.

Mae'r heddlu yn atafaelu'r ceir os ydyn nhw'n canfod eu bod nhw heb eu hyswirio
Yn ardal Dyfed Powys fe gynyddodd o 909 i 931, ac yn y gogledd fe gododd o 881 i 1,033 rhwng 2013-14 a 2016-17. Wnaeth Heddlu Gwent ddim darparu ffigyrau.
Llwyddodd Heddlu'r Gogledd i godi £111,590.99 drwy werthu ceir mewn ocsiynau ar ôl eu hatafaelu, tra bod Heddlu Dyfed Powys wedi codi £50,863.38.
Car Bentley Continental oedd yr un wnaeth fwyaf o arian i Heddlu'r Gogledd, gan fynd am £14,484 ym mis Mawrth 2017 - pris y model 2017 yw £135,760 os yw'n cael ei brynu gan ddeliwr.
Ar y llaw arall fe wnaeth yr un llu werthu fan Vauxhall Combo am £39 - mae un newydd fel arfer yn costio £9,000.
'Bil uwch i yrwyr gonest'
MIB yw'r mecanwaith sydd yn cael ei ddefnyddio yn y DU ar gyfer rhoi iawndal i bobl sydd yn dioddef gwrthdrawiad gafodd ei achosi gan yrrwr heb yswiriant, neu un nad oes modd dod o hyd iddo.
Dywedodd y ganolfan fod yswiriant car nid yn unig yn hanfodol yn gyfreithiol, ond ei fod yn cael effaith "sylweddol" ar ddiogelwch ffordd.

Mae'r ceir sy'n cael eu hatafaelu yn gallu cael eu gwerthu mewn ocsiwn neu eu hanfon i sgrap
"Mae'r heddlu allan ar y ffordd o hyd ac maen nhw'n gallu gweld pa geir sydd heb yswiriant gan ddefnyddio bas data yswiriant ceir MIB," meddai llefarydd.
"Rydyn ni hefyd yn helpu i daclo'r broblem o bobl yn gyrru heb yswiriant dan gynllun Gorfodaeth Yswiriant Parhaus mewn partneriaeth â'r DVLA.
"Ar ddiwedd y dydd mae'r bil ar gyfer gyrru heb yswiriant yn cael ei basio 'mlaen i yrwyr gonest sydd yn ariannu'r iawndal ar gyfer y miloedd o ddioddefwyr bob blwyddyn sydd yn rhan o wrthdrawiadau wedi'u hachosi gan yrwyr heb yswiriant."
Mae MIB wedi amcangyfrif fod tua 44,500 o'r 1.8m o geir oedd wedi'u cofrestru yng Nghymru yn 2016 heb yswiriant, cynnydd bychan o'r 44,520 yn 2015.
Dywedodd Cymdeithas yr Yswirwyr Prydeinig fod gyrru heb yswiriant yn cael "effaith negyddol" ar gost yswiriant car i bawb.