'Dim trafodaeth' o faterion traws yn yr ysgol

Mae Edward Jones, gafodd ei eni'n ferch ond sydd bellach yn byw fel bachgen, yn dweud bod materion traws "ddim yn cael eu trafod" yn yr ysgol ac y byddai wedi hoffi cael mwy o gefnogaeth.

Daw wrth i elusen alw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o help i athrawon er mwyn iddyn nhw wybod sut mae cefnogi disgyblion trawsryweddol.