Cyhuddo dyn o geisio llofruddio perchennog siop
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Lannau Dyfrdwy wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio perchennog siop yn dilyn lladrad honedig yn Queensferry.
Mae Matthew Liam Whelan, 29, o Mancot hefyd wedi ei gyhuddo o ddwyn o siop Imtiaz Ul Haq, 58 ddydd Iau diwethaf.
Fe wnaeth y perchennog siop ddioddef anafiadau cyllell difrifol i'w wddw yn dilyn y lladrad honedig a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth.
Mae dyn arall, Leslie Peter Baines, 47 oed o Gei Connah, yn wynebu cyhuddiad o ladrata yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar 6 Ionawr.

Fe fydd Matthew Whelan (chwith) a Leslie Baines gerbron Llys y Goron ym mis Ionawr