Cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl mynd ar goll o fferi
- Cyhoeddwyd

Roedd adroddiadau bod dynes ar goll o fferi Isle of Irishmore
Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw dynes gafodd ei darganfod yn farw yn Sir Benfro ar 2 Rhagfyr.
Roedd Jennifer Massi yn 24 ac o Lundain.
Bu gwasanaethau brys yn chwilio Môr Iwerddon yn dilyn adroddiadau bod dynes ar goll o fferi oedd yn teithio rhwng Penfro a Rosslare.
Cafodd y ddynes ei darganfod yn ardal Lawrenni yn Sir Benfro yn ddiweddarach.
Cafodd cwest i'r farwolaeth ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2016
