Wrecsam 2-1 Bromley
- Cyhoeddwyd

Mae Shaun Harrad wedi chwarae i Notts County, Burton Albion a Torquay United hefyd
Fe sgoriodd Shaun Harrad ei drydedd gôl mewn tair gêm wrth i Wrecsam guro Bromley.
Ymatebodd yr ymwelwyr i gôl hanner cyntaf Harrad pan rwydodd Blair Turgott.
Ond gyda 10 munud i fynd, fe sgoriodd Gerry McDonagh i roi'r tîm cartref ar y blaen.
Mae Wrecsam, sydd dan reolaeth dros dro Dean Keates ac Andy Davies, yn codi i'r 14eg safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.