Gemau Olympaidd Rio: Y Cymry sy'n cystadlu ddydd Llun
- Cyhoeddwyd


Hwylio
Enw: Hannah Mills

Camp: Dosbarth 470
Dyddiad geni: 29 Chwefror, 1988
Man geni: Caerdydd
Anrhydeddau: Pencampwr y Byd dosbarth 420 yn 2006 a dosbarth 470 yn 2012, arian yn nosbarth 270 yng Ngemau Olympaidd 2012
Roedd Mills a'i phartner, Saskia Clark, ar drywydd medal aur yn Llundain cyn iddyn nhw orffen yn ail olaf yn y ras derfynol gan eu gadael gydag arian. Fe wnaeth hi ddechrau hwylio yn wyth oed, a hi yw'r ffefryn i ennill y fedal aur yn Rio.

Enw: Chris Grube

Camp: Dosbarth 470
Dyddiad geni: 22 Ionawr, 1985
Man geni: Caer
Anrhydeddau: Efydd yn rownd Miami yng Nghwpan y Byd 2014
Cafodd Grube ei adael allan o'r garfan ar gyfer gemau Llundain ar ôl i Luke Patience a Stuart Bithell, wnaeth ennill medal arian, gael eu dewis o'i flaen. Collodd ei le yng ngharfan Prydain yn 2014 oherwydd cyfres o ganlyniadau gwael, cyn cael ei baru gyda Patience ym mis Ionawr 2016 ar ôl i Elliot Willis dynnu allan oherwydd problemau iechyd.

Seiclo
Enw: Becky James

Camp: Ras sbrint - Rownd yr 16 olaf
Dyddiad geni: 29 Tachwedd, 1991
Man geni: Y Fenni
Anrhydeddau: Pencampwr rasys keirin a sbrint y Byd 2013
James oedd y Prydeiniwr cyntaf i ennill pedair medal yn un Bencampwriaeth y Byd yn 2013, ac mae hi'n cystadlu yn y ras sbrint wnaeth ei arwr, Victoria Pendleton ennill medalau aur ac arian ynddi yn 2008 a 2012. Roedd James yn farchog brwd pan yn ifanc a hi yw'r pumed ffefryn i ennill y fedal aur yn Rio.