Yr eclips cyntaf ers dros ddegawd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sioe arallfydol o Gymru

Cafodd ddiffyg ar yr haul, neu eclips, cyntaf yn Ewrop ers dros ddegawd ei weld yng Nghymru fore Gwener tua 09:30.

Credir mai Cymru oedd un o'r llefydd gorau i weld y digwyddiad yn y DU.

Roedd arbenigwyr wedi galw ar i bobl fod yn ofalus, gan na ddylid edrych yn uniongyrchol ar y digwyddiad heb offer arbennig.

Roedd disgwyl i 95% o'r haul gael ei orchuddio.

Bu'r lleuad yn symud yn groes i'r haul gan ddechrau am 08:30, yn rhwystro golau. Roedd yr eclips yn dod i ben am 10:35.

EclipsFfynhonnell y llun, Huw James
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma o'r haul ei gymryd ym Mannau Brycheiniog am 09:00

Garry Owen yn gwylio'r eclips
Disgrifiad o’r llun,

Ble mae o?! Cyflwynydd Taro'r Post, Garry Owen, yn defnyddio mwgwd weldio i wylio'r digwyddiad

EclipsFfynhonnell y llun, Jac Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jac Osborne y collage yma o'r digwyddiad yn Ynys y Barri

EclipsFfynhonnell y llun, Paul Hadley
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Paul Hadley y llun yma o Gonwy

Parti eclips
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd barti eclips ei gynnal yn Hen Golwyn

Eclips
Disgrifiad o’r llun,

Yr eclips o Gaernarfon

EclipsFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Plant yn defnyddio sbectol arbennig i wylio'r digwyddiad yng Nghaerdydd

EclipsFfynhonnell y llun, Allan Trow
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei gymryd gan Allan Trow yn ne Cymru