Archfarchnadoedd: Tai yn cael eu dymchwel yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Cafodd y tai eu dymchwel ddydd Iau
Mae gweithwyr wedi bod yn dymchwel rhes o dai yn Aberystwyth fel rhan o gynllun datblygu i godi dwy archfarchnad newydd yn y dref.
Ymhlith y tai i gael eu dymchwel oedd tŷ Enid Jones, oedd wedi gwrthwynebu'r cynllun.
Roedd Mrs Jones wedi gwrthod gwerthu ei thŷ yn Ffordd Glyndŵr.
Llwyddodd y datblygwyr i gael gorchymyn gorfodi er mwyn codi archfarchnadoedd Marks & Spencer a Tesco.
Fe wnaeth Archwilydd Cynllunio gefnogi y cais cynllunio oedd yn golygu dymchwel 12 o dai.

Roedd Enid Jones wedi gwrthod dymchwel ei thŷ


Roedd y gorchymyn yn effeithio 12 o dai
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2015
