Corff Sameena Imam: Yr heddlu yn cadarnhau'n ffurfiol
- Cyhoeddwyd

Cafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf tu allan i'w gwaith yn Coventry
Mae'r heddlu wedi cadarnhau yn swyddogol mai corff Sameena Imam o Gaerdydd gafodd ei ddarganfod ar dir yng Nghaerlŷr ddydd Gwener.
Cafodd Sameena, 34, ei gweld am y tro diwethaf yn Coventry ar noswyl Nadolig, ac mae dau frawd, Roger Cooper, 40, o Coventry a David Cooper, 38, o Gaerlŷr wedi eu cyhuddo o'i llofruddio.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu West Midlands fod y corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol a bod teulu Ms Imam wedi cael gwybod am y datblygiad.